Gwaith Coed Safle Lefel 3 - Prentisiaeth
Trosolwg
Mae’r cymhwyster City & Guilds Adeiladu mewn Gwaith Coed Safle Lefel 3 yn darparu dull manwl o waith coed safle, ac yn ateb gofynion y sector adeiladu yng Nghymru, gan gynnwys gweithio ym maes adeiladu traddodiadol, newydd a chyn-1919 a thechnolegau newydd.
Bydd dysgwyr yn datblygu’r canlynol:
- Y gallu i gynllunio prosiectau gwaith ar y safle yn effeithiol
- Y gallu i adolygu a gwerthuso ansawdd y gwaith a gwblhawyd ar y safle yn effeithiol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r offer, y technegau, y defnyddiau a’r technolegau a ddefnyddir mewn gwaith coed safle a sut maen nhw’n newid ac wedi newid, dros amser
- Sgiliau cyflogadwyedd a’u gallu i’w defnyddio mewn amgylchedd gwaith
- Deall cynaladwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel sy’n briodol i waith adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
- Gwybodaeth a dealltwriaeth alwedigaethol o waith coed safle
- Perfformiad galwedigaethol mewn gwaith coed safle.
Nod y cwrs yw rhoi modd i ddysgwyr seiliedig ar waith i ddangos a gwella eu sgiliau galwedigaethol.
Gwybodaeth allweddol
- Rhaid eich bod wedi’ch cyflogi fel prentis
- Graddau A*-D ar lefel TGAU mewn Mathemateg a Saesneg Iaith. Gallwn drafod cymwysterau eraill.
Asesu:
Os yw’r dysgwr yn dilyn y cymhwyster Lefel 3 hwn fel rhan o’i brentisiaeth heb gyflawni’r cymhwyster Lefel 2 Sylfaen mewn Adeiladu yn gyntaf:
- Tri phrawf amlddewis ar-lein
- Un prosiect wedi’i osod yn allanol, wedi’i farcio’n fewnol
- Un drafodaeth dan arweiniad, wedi’i marcio’n fewnol
- Un prosiect ymarferol wedi’i osod gan gyflogwr
- Un drafodaeth broffesiynol.
Os yw’r dysgwr wedi cwblhau Lefel 2 Sylfaen mewn Adeiladu:
- Dau brawf amlddewis ar-lein
- Un prosiect ymarferol wedi’i osod gan gyflogwr
- Un drafodaeth broffesiynol.
Cyflogaeth neu hunangyflogaeth.
Rhaid eich bod yn gyflogedig fel prentis i wneud cais am y cwrs hwn.