Tystysgrif Genedlaethol mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (NEBOSH) - Cymhwyster
Trosolwg
Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer rheolwyr, goruchwylwyr a gweithwyr ym mhob sector sydd yn gyfrifol am iechyd a diogelwch yn y gweithle, neu weithwyr sydd â diddordeb mewn iechyd a diogelwch.
Mae’r cymhwyster hefyd yn addas ar gyfer ymarferwyr iechyd, diogelwch a’r amgylchedd sydd am wella eu profiad a symud ymlaen yn eu gyrfa trwy ennill cymhwyster ffurfiol.
Mae’r cwrs yn bodloni gofynion academaidd ar gyfer sicrhau Aelodaeth Technegydd o’r Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol ac aelodaeth Gysylltiol y Sefydliad Rhyngwladol Rheoli Risg a Diogelwch.
NG1, NG2.
Gwybodaeth allweddol
Bydd gofyn i ymgeiswyr fynychu cyfweliad cyn dechrau’r cwrs i drafod y cymhwyster ac i ddarganfod a yw lefel a chynnwys y cwrs yn addas.
Does dim angen i ymgeiswyr feddu ar unrhyw wybodaeth flaenorol am iechyd a diogelwch, ond, er gwybodaeth, bydd yr asesiad yn cynnwys tasg ysgrifenedig lle bydd gofyn iddynt greu adroddiad cryno ac arholiad ysgrifenedig.
Mae'r cymhwyster yn cynnwys dwy brif uned, rheoli iechyd a diogelwch, a rheoli peryglon yn y gweithle.
Mae rheoli iechyd a diogelwch yn cynnwys pedair elfen:
- Pam y dylem reoli iechyd a diogelwch yn y gweithle
- Sut mae systemau rheoli iechyd a diogelwch yn gweithio a sut maent yn cael eu gweithredu
- Rheoli risg a deall pobl a phrosesau
- Monitro a mesur iechyd a diogelwch
Mae rheoli peryglon yn y gweithle yn cynnwys saith elfen:
- Iechyd corfforol a seicolegol
- Iechyd cyhyrysgerbydol
- Sylweddau cemegol a biolegol
- Materion cyffredinol yn y gweithle
- Cyfarpar gwaith
- Tân
- Trydan
Bydd yr uned rheoli iechyd a diogelwch yn cael ei asesu trwy arholiad ar-lein, tra bydd rheoli peryglon yn y gweithle yn cael ei asesu trwy gwblhau asesiad risg.
Cost y cwrs yw £1098 a bydd hyn yn talu am gofrestriad NEBOSH, ffi arholiadau, diwrnod adolygu, cinio, man parcio a llawlyfrau cwrs. Ni fydd TAW yn effeithio ar y ffi hon.
Mae’n hanfodol bod ymgeiswyr yn dod ag ID ffotograffig i’r arholiad. Os na fyddant yn gwneud hyn, mae’n bosib na fyddant yn cael sefyll yr arholiad.