Skip to main content

Profi Dyfeisiau Cludadwy Lefel 3 - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 3
C&G
Tycoch
Tri diwrnod

Trosolwg

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio o fewn y sector hwn neu unigolion sydd angen ennill y cymhwyster hwn i ymgymryd â thasgau gwaith dyddiol.

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnig dealltwriaeth i ddysgwyr o theori ac ymarfer archwilio a phrofi offer trydanol, sef PDC (PAT). Bydd dysgwyr yn datblygu a defnyddio’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i archwilio a phrofi offer trydanol yn unol â’r fersiwn diweddaraf o’r Cod Ymarfer ar gyfer archwilio a phrofi offer trydanol yn fewnol.

Gwybodaeth allweddol

Disgwylir i ddysgwyr feddu ar gymhwyster perthnasol a/neu wybodaeth ymarferol o'r rheoliadau gwifrau trydanol sy’n cwmpasu’r isod:

  • Dealltwriaeth o Gyfraith Ohm (gorfodol).
  • Sgil gwifrau ymarferol fel plwg 13A
  • Dealltwriaeth o Ddeddf Trydan yn y Gwaith 1989
  • Dealltwriaeth o Rheoliadau Darparu a Defnyddio Cyfarpar Gwaith 1998 (PUWER).

Ystyrir pob cais yn unigol ac efallai na fydd angen cymwysterau ffurfiol mewn rhai achosion. Bydd hyn yn dibynnu ar brofiad.

Yn dibynnu at eich sgiliau a’ch cymwysterau, efallai bydd angen i chi gymryd rhan mewn cyfweliad.
Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar gopi o'r Cod Ymarfer ar gyfer Arolygu a Phrofi Mewnol (Pumed argraffiad), yn ogystal â chyfrifiannell, beiro a phapur. Ni ellir defnyddio ffôn symudol fel cyfrifiannell.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno dros dri diwrnod a bydd yn cynnwys sesiynau yn yr ystafell ddosbarth a chyfarwyddyd ymarferol, yn ogystal ag arholiad llyfr agored ac aseiniad ymarferol.

Testunau

  • PUWER
  • Deddf Gwaith Trydanol 1989
  • Codau IP
  • BS7671
  • Dulliau Gwifro

Mae’r cymhwyster hwn yn ddefnyddiol i staff cynnal a chadw cyfleusterau, contractwyr trydanol presennol, swyddogion iechyd a diogelwch ac eraill.

Cost y cwrs yw £300.