Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd Lefel 2 - Cymhwyster
Trosolwg
Mae’r cymhwyster hwn yn addas i unigolion sy’n gweithio yn y sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu’n bwriadu gweithio yn y sectorau hynny:
- Dysgwyr 16+ oed, sy’n gweithio ar hyn o bryd yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol neu’n bwriadu gweithio ynddo
- Gweithwyr gofal cymdeithasol (Oedolion)
- Gweithwyr gofal cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)
- Gweithwyr cymorth gofal iechyd
- Cynorthwywyr gofal iechyd
Mae’r cwrs yn cefnogi dysgu i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r canlynol:
- Egwyddorion a gwerthoedd craidd sydd wrth wraidd ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol
- Ffyrdd o weithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol
- Ymarfer effeithiol mewn iechyd a gofal cymdeithasol
- Llwybrau dilyniant i astudiaethau pellach neu gyflogaeth mewn iechyd a gofal cymdeithasol
Gwybodaeth allweddol
Bydd dysgwyr yn dod i’r Coleg am ddiwrnod llawn bob pythefnos ar gyfer dysgu ac addysgu i baratoi at asesiadau, ac i gyflawni’r cwestiynau dewis lluosog a osodir yn allanol.
Mae tri llwybr ar gael ar gyfer y cymhwyster hwn:
- Oedolion
- Plant a Phobl Ifanc
- Llwybr cyfunol
Bydd dysgwyr yn gweithio gyda hyfforddwr/aseswr dynodedig sy’n gymwysedig yn y sector, ac mae cymorth ar gael ar gyfer unrhyw anghenion dysgu ychwanegol trwy asesiad gyda’r tîm niwroamrywiaeth
Unedau
- Egwyddorion a gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol (Oedolion)
- Egwyddorion a gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)
- Iechyd a lles (Oedolion)
- Iechyd a lles (Plant a Phobl Ifanc)
- Ymarfer proffesiynol fel gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol
- Diogelu unigolion
- Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
Os ydych yn ymgymryd â chymhwyster Craidd Lefel 2 fel rhan o Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2, neu Brentisiaeth Lefel 3 mewn Oedolion neu Blant a Phobl Ifanc, mae’r cwrs Lefel 2 Craidd yn orfodol dan y fframwaith. Byddwch yn symud ymlaen i:
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
Bydd y cymhwyster yn darparu gwybodaeth eang ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd yn darparu’r wybodaeth er mwyn symud ymlaen i’r canlynol:
- Lefel 2 Egwyddorion a Chyd-destunau Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Lefel 3 Egwyddorion a Chyd-destunau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion/Plant a Phobl Ifanc)
- TAG Uwch a TAG Uwch Gyfrannol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant