Dylunio a Gwirio Gosodiadau Trydanol Lefel 4 - Cymhwyster
Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer trydanwyr cymwys sy’n dymuno cyflawni cynnydd gyrfaol yn y sector electrdechnegol, cymhwyso eu gallu wrth ddylunio gosodiadau trydanol ac ennill cymhwyster cydnabyddedig.
Gwybodaeth allweddol
Dylai ddysgwyr feddu ar gymhwyster archwilio a phrofi.
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno yn y Ganolfan Ynni ar gampws Tycoch, Coleg Gŵyr Abertawe, a bydd yn cynnwys pum sesiwn tiwtorial dros gyfnod o bum diwrnod llawn, yn ogystal â 12 sesiwn diwtorial gyda’r nos dros gyfnod o wyth mis.
Mae’r cymhwyster yn cynnwys un uned wybodaeth (35 awr o ddysgu) dan arweiniad, sy’n cwmpasu:
- Gofynion statudol ac anstatudol perthnasol
- Dyluniad gosodiadau trydanol
- Gweithdrefnau dylunio a gwirio
- Systemau amddiffynol eraill
- Agweddau ar dechnoleg amgylcheddol
- Cyfrifiadau dylunio a chymhwyso BS 7671, yn ogystal â chanllawiau cysylltiedig mewn perthynas â dylunio gosodiadau yn ddiogel ac yn effeithiol
- Diploma Proffesiynol Uwch Lefel 4 mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (4467-04)
- Cymwysterau Rheoli ac Arwain ILM
Bydd angen i ddysgwyr brynu tri llyfr i astudio’r cwrs:
- IEE 18th Edition Wiring Regulations 2018 Amendment 2
- Guidance Note 3 (diweddarwyd i BS7671:1:2018+A2:2022)
- On-site Guide (diweddarwyd i BS7671:2018+A2:2022)
Byddai meddu ar dystysgrif Archwilio a Phrofi yn fanteisiol.
Awgrymir i chi bryni’r ddau lyfr canlynol hefyd, ond ni chaniateir i chi eu defnyddio yn yr arholiad:
- Guidance Note 1 (diweddarwyd i BS7671:1:2018+A2:2022)
- 18th Edition IET Wiring Regulations – Design and Verification of Electrical Installations (9fed fersiwn)