Cyfyngiant Trydanol Lefel 2 - Cwrs
Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Cwrs ymarferol yw Cyfyngiant Trydanol a fydd yn gwella eich sgiliau trydanol. Byddwch yn cael cyfle i ddysgu sut i osod cwndidau metel, PVC, plastig a ‘traywork’, gan ddefnyddio offer y byddwch yn eu defnyddio ar safle.
Cynlluniwyd y cwrs ar gyfer trydanwyr profiadol, prentisiaid a gosodwyr sy’n dymuno gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth ac sydd am osod offer trydanol mewn amgylcheddau masnachol a diwydiannol.
Gwybodaeth allweddol
Disgwylir i ddysgwyr feddu ar gymwysterau masnachol perthnasol a/neu gwybodaeth ymarferol o'r diwydiant trydanol.
Ystyrir pob cais yn unigol ac efallai na fydd angen cymwysterau ffurfiol mewn rhai achosion. Bydd hyn yn dibynnu ar brofiad.
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno dros ddau ddiwrnod yng Nghanolfan Ynni Coleg Gŵyr Abertawe, Campws Tycoch.
Testunau
- Offer plygu pibellau, metel a phlastig
- Technegau plygu
- Technegeau mesur manwl
- Bocs edafu ac uniadu
- Systemau ffitio a chymorth
- Dulliau torri a ffitio
- Dulliau gwifrau craidd sengl
- Technegau dylunio
Bydd y cwrs hwn yn ddefnyddiol iawn i staff cynnal a chadw cyfleusterau, contractwyr trydanol, prentisiaid sy’n cwblhau cymwysterau AM2, swyddogion iechyd a diogelwch ac ati.