Asesu Risg Lefel 2 - Dyfarniad (Highfield)
Trosolwg
Mae gan gyflogwyr a gweithwyr hunangyflogedig ddyletswydd gyfreithiol i asesu risgiau iechyd a diogelwch. Mae angen i bob unigolyn sy’n cynnal asesiad risg feddu ar wybodaeth a sgiliau cyfredol gan fod yn hyderus wrth gynnal yr asesiad ei hun.
Mae’r cymhwyster yn gymysgedd o wybodaeth ddamcaniaethol a sesiynau ymarferol sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau, gallu a hyder y dysgwr fel y gall gynnal asesiadau risg addas a digonol yn seiliedig ar arferion gorau, ar ôl dychwelyd i’r gweithle.
Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd dysgwyr yn gallu:
- Nodi’r prif resymau dros gynnal asesiadau risg yn y gweithle
- Nodi’r elfennau cyfreithiol allweddol mewn perthynas ag asesu risg
- Nodi sut mae asesiadau risg yn cyd-fynd â system rheoli iechyd a diogelwch y sefydliad
- Nodi a gweithredu elfennau allweddol asesiadau risg
- Dangos sut i ddefnyddio matrics sgorio risgiau
- Nodi gwahanol ymagweddau o ran asesu risgiau a’u rhoi ar waith yn y gweithle
Gwybodaeth allweddol
Testunau
- Nodi’r prif resymau dros gynnal asesiadau risg
- Deddfwriaethau iechyd a diogelwch ac asesu risg
- Systemau asesu risg a rheoli iechyd a diogelwch
- Camau allweddol asesu risgiau
- Gwybodaeth ychwanegol am asesu risgiau
Bydd y cwrs hwn yn addas i unigolion sy’n gyfrifol am gynnal asesiadau risg ac mae’n berthnasol i’r rhan fwyaf o sectorau.
Bydd dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn derbyn tystysgrif o bresenoldeb gan Highfield.