Arolygu a Phrofi Lefel 3 – Cwrs Cyfunol
Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys EAL 4337 Gwirio ac Ardystio Cychwynnol Gosodiadau Trydanol, yn ogystal ag EAL 4338 Arolygu, Profi ac Ardystio Cyfnodol Gosodiadau Trydanol. Mae’n gwrs cyfunol lle bydd ymgeiswyr yn cael y paratoad angenrheidiol i brofi, arolygu ac ardystio gosodiadau trydanol.
Mae’r cwrs yn bennaf yn addas i drydanwyr cymwysedig, prentisiaid trydanol yn eu blwyddyn derfynol neu weithwyr profiadol sy’n gweithio tuag at eu tystysgrif EWA.
Gwybodaeth allweddol
Disgwylir i ymgeiswyr fod â gwybodaeth weithredol a thystysgrif yn 18fed Argraffiad y Rheoliadau Trydanol.
Bydd angen llungopi arnom o’ch tystysgrif 18fed Argraffiad, ac o’ch Tystysgrif Lefel 2 neu 3 mewn Technoleg Electrodechnegol (233). Neu, rhaid i chi gynhyrchu tystiolaeth eich bod yn gweithio tuag at eich cymhwyster Gweithiwr Profiadol Electrodechnegol Lefel 3 cyn dilyn y cwrs.
Mae mynediad yn amodol ar gyfweliad.
Byddwch yn dilyn y cwrs am chwe diwrnod, neu am 12 wythnos fel dosbarth nos.
Bydd asesiadau yn cynnwys arholiadau ar-lein ac asesiadau ymarferol.
City & Guilds Lefel 4 Dylunio a Gwirio Gosodiadau Trydanol
AM2E i Weithwyr Profiadol
Gofynnol ar gyfer Cerdyn Aur ECS
Rhaid i ymgeiswyr fod â chopi o’r 18fed Argraffiad o BS7671 ar – Nodyn 3 y Canllawiau Safle.