Skip to main content

Therapi Harddwch Lefel 1 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 1
VTCT
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284049 (Broadway)

Trosolwg

Mae VTCT Diploma Lefel 1 mewn Therapi Harddwch yn gwrs un flwyddyn sydd wedi cael ei ddylunio’n benodol i’ch cyflwyno i’r sgiliau therapi harddwch ymarferol mewn amgylchedd gwaith realistig. 

Pwrpas y cymhwyster hwn yw datblygu’ch sgiliau mewn therapi harddwch. Bydd yn rhoi sylfaen i chi ar gyfer dysgu pellach a hefyd bydd yn rhoi modd i chi berfformio’ch gwasanaethau sylfaenol eich hun a chynorthwyo pobl eraill yn y salon. 

Mae meysydd astudio yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i’r sector gwallt a harddwch 
  • Cyflwyno delwedd broffesiynol mewn salon 
  • Y grefft o golur ffotograffig 
  • Darparu triniaeth dwylo sylfaenol 
  • Darparu triniaeth traed sylfaenol 
  • Coluro sylfaenol 
  • Dilyn iechyd a diogelwch yn y salon 
  • Gweithio gydag eraill yn y sector gwallt a harddwch 
  • Creu delwedd gwallt a harddwch 
  • Dyletswyddau derbynfa salon 
  • Celf ewinedd 
  • Gofal Croen 
  • Peintio wynebau â thema. 

Gwybodaeth allweddol

  • Graddau D-E ar lefel TGAU mewn Mathemateg a Saesneg Iaith neu’r cyfwerth 
  • Rhaid bod ymgeiswyr yn gallu gweithio fel aelod o dîm a meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog. 

Byddwch yn dod i’r Coleg am 17 awr yr wythnos.

Asesiad ymarferol parhaus ac aseiniadau ysgrifenedig. 

Rhaid i ddysgwyr brynu cit a gwisg fel rhan o’u cwrs. Byddwn yn cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad (mae’n bosibl y bydd cyllid ar gael). 

Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) therapi harddwch ac mae’n cael ei gydnabod gan gymdeithas broffesiynol flaenllaw’r DU, Cymdeithas Therapi Harddwch a Chosmetoleg Prydain (BABTAC) fel un sy’n addas i’r diben i’ch paratoi ar gyfer gyrfa fel therapydd harddwch. Mae deiliaid y cymhwyster hwn yn gymwys i ddod yn aelod proffesiynol o BABTAC.