Gradd Sylfaen mewn Tai a Chymunedau Cynaliadwy
Trosolwg
Hyd: Dwy flynedd
Mae’r Radd Sylfaen hon yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sy’n dyheu am rolau rheoli neu sydd wedi cael eu dyrchafu i swydd o’r fath yn ddiweddar ac a hoffai ennill statws siartredig CIH*.
Addysgir y cwrs hwn mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam* Dim ond trwy gwblhau cyrsiau prifysgol fel y cwrs hwn y gellir ennill aelodaeth siartredig. Mae aelodaeth siartredig CIH yn dangos eich arbenigedd tai, eich ymrwymiad a’ch safonau moesegol. Yn syml, aelodaeth siartredig yw nodwedd amlycaf eich llwyddiant ym maes tai. Mae’n cydnabod eich bod yn weithiwr proffesiynol cymwysedig, cymwys ac ymroddedig ym maes tai.
Cliciwch yma i lenwi ein ffurflen ymholiad Addysg Uwch Diweddarwyd Rhagfyr 2022
Gwybodaeth allweddol
Cyflogaeth yn y sector a/neu gymhwyster Y Sefydliad Tai Siartredig (CHI) Lefel 4.
Bydd cyfweliad cyn y cwrs yn ofynnol.
Addysgir y cwrs hwn dros 24 diwrnod astudio (9am-4pm) dros gyfnod o flwyddyn os ydych wedi cwblhau CIH Tystysgrif Lefel 4 ar gyfer y Proffesiwn Tai/Tai, ac mae’n rhoi mynediad uwch ar gyfer 60 credyd Lefel 4 a chewch gais RPL/RPEL llwyddiannus gan Brifysgol Glyndŵr ar gyfer y 60 credyd Lefel 4 sy’n weddill.
Cost y cwrs yw £4,500 (ond gallech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol trwy fenthyciadau myfyrwyr (o £2,625).
I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu a grantiau ffioedd, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
*Sylwch fod y ffioedd dysgu a nodir ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24 a gallent gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan y brifysgol i gael rhagor o wybodaeth.