Technegau Gwydr Twym
Trosolwg
Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i archwilio ac arbrofi gydag amrywiaeth o dechnegau a phrosesau gweithio gwydr. Byddwch yn cael eich cyfarwyddo ar arferion gweithio diogel wrth weithio gyda gwydr. Bydd amrywiaeth o wahanol arddangosiadau ar gael gan ddefnyddio offer a chyfarpar gan diwtor profiadol.
Yn ystod gweithdai arbenigol byddwch yn gallu datblygu a chreu portffolio o arteffactau gwydr. Bydd gennych fynediad i weithdai gwydr pwrpasol a chewch eich annog i weithio mewn modd cynaliadwy gyda deunyddiau gwydr wedi'u hailgylchu. Bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithdai amrywiol megis torri/asio/slympio/glud uwchfioled/ffritiau a gwydr conffeti/ fflôt/Bullseye/llifanu/castio/gwneud mowldiau. Mae hwn yn gwrs delfrydol i’r rhai a hoffai ddechrau gweithio ym maes gwydr neu adeiladu ar eich sgiliau presennol.
Gwybodaeth allweddol
Nid oes angen profiad na gwybodaeth flaenorol.
Addysgir y cwrs hwn dros bum diwrnod, 9.30am - 3.30pm
- Gwener 30 Mehefin
- Gwener 7 Gorffennaf
- Gwener 14 Gorffennaf
- Iau 20 Gorffennaf
- Gwener 21 Gorffennaf