Skip to main content

Technegau Gwydr

Rhan-amser
Lefel 2
AGORED
Llwyn y Bryn
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Bydd y cwrs hwn yn eich annog i archwilio ac arbrofi ag amrywiaeth o dechnegau gwydr a chymwysiadau arwyneb, offer defnyddiau ac yn cynnwys technegau gwydr twym. Dyma gyfle go iawn i chi fod yn greadigol ac arbrofi â thoddi gwydr, slympio, technegau gwneud mowldiau mewn amrywiaeth o brosesau.

Mae hwn yn gwrs cychwyn delfrydol neu os ydych chi am ddatblygu’ch sgiliau ymhellach ar gyfer eich ymarfer creadigol eich hun. Bydd gennych fynediad i’n cyfleusterau gweithdy gwydr pwrpasol lle gallwch weithio’n gynaliadwy gyda gwydr wedi’i ailgylchu, ffritiau gwydr, conffeti ac ati neu adeiladu 3D gyda gludiau UV. Bydd pob agwedd ar weithio’n ddiogel mewn gweithdy gwydr yn cael sylw a bydd tiwtor profiadol yn eich tywys a’ch mentora.

Ychwanegwyd Gorffennaf 2021

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen gwybodaeth flaenorol.

Addysgir y cwrs trwy weithdai gydag arddangosiadau wythnosol ymarferol a phrosiect personol. Bydd pob dysgwr yn cael llyfryn i gasglu tystiolaeth ysgrifenedig a gweledol, a bydd hwn yn cael ei asesu ynghyd â’r canlyniadau terfynol.

Mae cyfleoedd i symud ymlaen i lefelau Agored eraill yn ogystal â’r cyrsiau Celf a Dylunio Lefel 2, Celf a Dylunio Lefel 3, a’r Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio.

Ffioedd stiwdio - £20. Gall myfyrwyr brynu cyflenwadau gan y cyflenwyr gwydr canlynol hefyd. www.warm-glass.co.uk/ www.creativeglassshop.co.uk/