Skip to main content

Sgiliau Rhifedd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Rhan-amser
Tycoch
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Mae angen y sgiliau cywir ar bawb sy’n gweithio neu’n ystyried gweithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae sgiliau rhifedd da yn hanfodol i bob gweithiwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n cyflawni rolau ar unrhyw lefel.

Mae rhifau a’u defnydd yn rhan annatod o unrhyw rôl Iechyd a Gofal Cymdeithasol e.e. amseru ymweliadau, cyfrifo siartiau cydbwysedd hylif, hawlio milltiroedd.

Gall tystiolaeth o sgiliau rhifedd da fod o fudd i’r rhai sy'n ceisio cyflogaeth a gall helpu i osgoi diweithdra yn y dyfodol.

Diweddarwyd Rhagfyr 2018

Gwybodaeth allweddol

Bydd dysgwyr yn cwblhau offeryn asesu ar-lein. Bydd hwn yn rhoi amlinelliad eang o sgiliau cyfredol y dysgwr ac yn helpu i nodi anghenion datblygu. Bydd y cwrs yn mynd i’r afael â’r anghenion hyn trwy addysgu strwythuredig ac asesu ar-lein. Bydd dysgwyr yn dod i’r Coleg am 15 wythnos, ac am ddwy awr yr wythnos.