Sgiliau Dylunio Digidol ar gyfer Diwydiannau Creadigol
Trosolwg
Bydd y cwrs hwn yn eich annog i archwilio ac arbrofi gydag amrywiaeth o ddefnyddiau a thechnegau tecstilau y gellir eu defnyddio ar gyfer dylunio ffasiwn a dylunio mewnol.
Mae’r cwrs yn cwmpasu nodweddion Photoshop ac Adobe Illustrator o safon diwydiant gan gynnwys gweithio gyda haenau, trin lliwiau a delweddau. P’un ai ydych am ddefnyddio Photoshop ar gyfer trin lluniau neu waith printio, bydd y cwrs hwn yn rhoi modd i chi ehangu eich sgiliau i gael y gorau o’r meddalwedd hwn ar gyfer gwaith Ffasiwn a Thecstilau.
Byddwch yn defnyddio ein stiwdios a’n hoffer mwyaf diweddar, sy’n cynnwys torrwr laser, argraffydd tecstilau digidol a meddalwedd dylunio tecstilau.
Diweddarwyd Ionawr 2020
Gwybodaeth allweddol
Mae sawl cyfle gan gynnwys Lefel 3 Celf a Dylunio, Diploma Sylfaen Celf a Dylunio, Lefel 3 Astudiaethau Sylfaen a Gradd Sylfaen Dylunio Ffasiwn a Thecstilau.