Rheoli Ymddygiad Cadarnhaol
Rhan-amser
Lefel 2
AGORED
Tycoch
Five weeks
Ffôn:
01792 284000 (Tycoch)
E-bost: enquiries@gcs.ac.uk
Trosolwg
Bydd y cymhwyster yn rhoi modd i’r dysgwr ddeall polisïau a strategaethau ar gyfer cefnogi anghenion dysgwyr mewn amgylchedd dysgu.
Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf ac mae’n addas ar gyfer unigolion sy’n cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol neu ymddygiad heriol mewn amgylchedd dysgu.
Bydd asesiad yn digwydd yn fewnol.
Ychwanegwyd Tachwedd 2018
Nid yw’r cwrs hwn yn rhedeg ar hyn o bryd .
Gwybodaeth allweddol
Ar ôl cwblhau’rcwrs yn llwyddiannus bydd y dysgwr yn:
- Gwybod am bolisïau sy’n ymwneud â chefnogi ymddygiad cadarnhaol yn ei sefydliad ei hun
- Gwybod beth yw ymddygiad heriol yn yr amgylchedd dysgu a’i achosion posibl
- Gwybod am strategaethau ar gyfer rheoli ymddygiad
- Gwybod am y camau gweithredu sydd eu hangen yn dilyn digwyddiadau ymddygiad heriol.