Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Trosolwg
Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar wybodaeth ac mae ar gyfer staff profiadol a hoffai ddatblygu eu potensial i arwain er mwyn symud ymlaen i rôl arwain a rheoli yn y sector Gofal Plant. Gan ei fod yn seiliedig ar wybodaeth, gall dysgwyr gwblhau’r cymhwyster hwn cyn cael rôl arwain.
Mae’r cymhwyster yn addas ar gyfer:
dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymwysterau canlynol neu’r cyfwerth cydnabyddedig yn llwyddiannus:
Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2: Ymarfer
Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3: Ymarfer
Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3: Ymarfer a Theori
cymhwyster etifeddiaeth a restrir yn y ddogfen Gofal Cymdeithasol Cymru - Fframwaith Cymwysterau ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Rheoleiddiedig yng Nghymru
Ychwanegwyd Gorffennaf 2020
Gwybodaeth allweddol
Mae cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn cynnwys y tair uned ganlynol:
- Arwain ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn
- Fframweithiau damcaniaethol ar gyfer arwain a rheoli
- Deall sut i arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol
Er mwyn cyflawni cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant rhaid i ddysgwyr gyflawni cyfanswm o 60 credyd. Mae pob uned yn y cymhwyster yn orfodol.
Asesir cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant trwy gyfuniad o asesu mewnol ac allanol.
Ar gyfer yr asesiad allanol rhaid i ddysgwyr gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:
- Prosiect sy’n cynnwys cyfres o dasgau seiliedig ar newid arfaethedig i ymarfer
Ar gyfer yr asesiad mewnol rhaid i ddysgwyr gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:
- Cyfres o dasgau, sy’n cynnwys ymatebion llafar ac ysgrifenedig.
Mae’r cwrs Lefel 4 sy’n paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn darparu’r wybodaeth i helpu rheolwyr i gymryd eu cam cyntaf i rôl arweinyddiaeth, ac i symud ymlaen i:
- Lefel 5 Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer (ar yr amod bod y dysgwr mewn rôl addas)
- Ymarfer Proffesiynol Lefel 4 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant gydag Arbenigedd