Skip to main content

Mowldio a Chastio Amlgyfrwng (Cyfres yr Haf)

Rhan-amser
Lefel Mynediad 2
AGORED
Llwyn y Bryn
5 diwrnod
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Bydd y cwrs hwn yn eich annog i archwilio ac arbrofi ag amrywiaeth o gyfryngau a phrosesau gwahanol. Byddwch yn profi technegau gwahanol o wneud mowldiau a dysgu theori agweddau technegol. Bydd cyfleoedd i ddatblygu technegau castio amrywiol gyda defnyddiau gwahanol, gan gynnwys: plastr, Modroc, resin, latecs, llenwadau metel, clai, sment a mwy. 

Yn ystod y gweithdai bob dydd, byddwch yn gallu adeiladu portffolio o arteffactau amlgyfrwng. Gellir haenu prosesau er mwyn cyflawni’r prosiect personol o’ch dewis. 

Byddwn yn rhoi sylw i bob agwedd ar iechyd a diogelwch hefyd. Drwy gydol y cwrs,  cewch eich arwain a’ch cyfarwyddo gan diwtor profiadol. Mae hwn yn gwrs delfrydol i ddechreuwyr a hoffai weithio mewn cyfryngau gwahanol a 3D, neu gynyddu’ch sgiliau i gefnogi’ch ymarfer eich hun. 

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen profiad blaenorol.

Asesir y cwrs trwy weithgareddau ymarferol, tystiolaeth ysgrifenedig/weledol a’r arteffact seramig terfynol. Addysgir y cwrs dros bum diwrnod rhwng 9.30am a 3.30pm.

  • Cyrsiau AGORED arall
  • Celf a Dylunio Level 2
  • Celf a Dylunio Level 3
  • Diploma Sylfaenol mewn Celf a Dylunio

Gwisgwch ddillad synhwyrol ac esgidiau wedi’u gorchuddio ar gyfer gweithgareddau ymarferol. Ffioedd Stiwdio: £20. Cwrs: £70.