Cyflwyniad i Bodledu
Rhan-amser
Arall
E-bost: enquiries@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae podledu yn gyfrwng sy’n tyfu o hyd y gellir ei ddefnyddio i addysgu a hysbysu’ch cynulleidfa mewn ffordd ddifyr. Bydd y cwrs hwn yn addysgu’r hanfodion fel y gallwch greu’ch podlediadau eich hun.
Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu’r technegau podledu canlynol:
- Cyflwyniad i bodledu
- Cynllunio strwythur eich podlediad
- Arddulliau cyflwyno
- Technegau recordio sain
- Meddalwedd a thechnegau golygu gan ddefnyddio Audacity
- Aseiniad cynhyrchu podlediad
-
Cynnal podlediad
Ychwanegwyd Mehefin 2021
Nid yw’r cwrs hwn yn rhedeg ar hyn o bryd .
Gwybodaeth allweddol
Cwrs i ddechreuwyr yw hwn ac felly nid oes angen profiad blaenorol, ond byddai diddordeb mewn radio / podledu a phrofiad o feddalwedd creadigol yn fanteisiol.
Bydd y cwrs 10 wythnos hwn yn cael ei addysgu trwy ddosbarth ar-lein 1.5 awr ar Microsoft Teams, gyda sesiwn cymorth ychwanegol ar-lein am awr. Asesir y cwrs trwy weithgareddau seiliedig ar dasgau a fydd yn arwain at greu aseiniad podlediad terfynol.
Bydd y sgiliau a’r technegau y byddwch yn eu dysgu ar y cwrs hwn yn eich helpu i symud ymlaen i waith cynhyrchu radio a phodlediadau.
Mae mynediad i ddyfais recordio sain megis ffôn symudol neu feicroffon cyfrifiadur yn hanfodol.