Skip to main content

IMI Dyfarniad Lefel 3 mewn Atgyweirio ac Amnewid Systemau Cerbydau Trydan/Hybrid

Rhan-amser
Lefel 3
Tycoch
2 diwrnod
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Nod penodol y cwrs hwn yw astudio pob agwedd ar Dechnoleg Hybrid/a Yrrir gan Drydan. Mae’n cwmpasu gweithdrefnau diogelwch sylfaenol wrth drin systemau Foltedd Uchel ac yn edrych yn fanwl ar sut mae’r system Gyriant ac Atgynhyrchu yn cael ei rheoli. Yn ogystal â rheoli uned bŵer y Gwrthdröydd, dealltwriaeth drylwyr o reoli, byddwch chi’n dysgu sut mae gwybodaeth yn cael ei defnyddio i wneud y mwyaf o effeithlonrwydd y system. Mae pynciau astudio eraill yn cynnwys cywasgwyr Aerdymheru Aer Foltedd Uchel, Trawsnewidyddion DC-DC, cydosodiadau Gwresogydd PTC ynghyd â systemau brecio hydrolig pwysedd uchel a rheoli’r cydbwysedd rhwng brecio confensiynol a brecio atgynhyrchiol. Yn addas ar gyfer Technegwyr sy’n gwneud gwaith atgyweirio ac amnewid cydrannau Foltedd Uchel Hybrid/a Yrrir gan Drydan.

Pynciau Astudio

  • Terminoleg
  • Mathau o ddyluniadau Hybrid/Trydan
  • Amodau gweithredu
  • Systemau Awtostopio
  • Adeiladwaith a swyddogaeth systemau Hybrid
  • Trin cydrannau Hybrid a gweithdrefnau diogelwch
  • Adeiladwaith a swyddogaeth systemau Hybrid/a Yrrir gan Drydan
  • Gweithdrefnau a Dulliau Diffodd Diogel ar gyfer mesur trydanol
  • Adeiladwaith a swyddogaeth cydrannau, Adnabod unedau rheoli, cydrannau a chydosod y modur – Ymarferol (Yn amodol ar argaeledd caledwedd)
  • Adeiladu a gweithredu batri
  • Adeiladu a gweithredu modur di-frwsh
  • Egwyddorion tri-cham
  • Rheoli modur
  • Atgynhyrchu trydanol
  • Cywiro a rheoleiddio foltedd gwrthdröydd.

Gwybodaeth allweddol

Rhaid bod gennych gymhwyster meistr dechnegydd/technegydd diagnostig cerbydau ysgafn, hyfforddwr technegol, peiriannydd a dylunydd modurol.

Bydd y cwrs yn cael ei addysgu dros ddau ddiwrnod yn ein gweithdy ar Gampws Tycoch.