Skip to main content

Gwneud Staesiau

Rhan-amser
Lefel 1
AGORED
Llwyn y Bryn
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i ddefnyddio patrwm wedi’i brynu i gynhyrchu staes gan ddefnyddio sgiliau gwneud staes traddodiadol. Byddwch yn dysgu sut i ffitio a siapio staes a chreu sianeli i fewnosod esgyrn. Byddwch yn dysgu sut i fewnosod pren staes a gorffen y staes gan ddefnyddio rhwymiad bias.

Ychwanegwyd Mehefin 2020

Gwybodaeth allweddol

Mae angen sgiliau gwnïo sylfaenol ar gyfer y cwrs rhagarweiniol hwn.

Byddwch yn astudio’r cwrs hwn yn y gweithdy/stiwdio. Addysgir y cwrs drwy amrywiaeth o weithdai ymarferol, 3 awr yr wythnos dros 10 wythnos ac mae’n cynnwys asesiadau parhaus.

Mae sawl cyfle gan gynnwys cyrsiau rhan-amser eraill, Celf a Dylunio Lefel 2, Celf a Dylunio Lefel 3, neu’r cwrs Diploma Sylfaen Celf a Dylunio.

Bydd rhaid i chi brynu’ch ffabrig eich hun a’r edau i gyd-fynd ag ef.