Skip to main content

Gwneud Ffrog Sifft yr Haf

Rhan-amser
Lefel 1
GCS
Llwyn y Bryn
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i ddefnyddio peiriant gwnïo gan roi modd i chi ddatblygu sgiliau gwnïo i greu ffrog sifft yr haf.

Bydd yr holl ddysgwyr yn cynhyrchu ffrog o’r un steil ond byddan nhw’n addasu’r dyluniad i’w chwaeth bersonol nhw. Gan ddefnyddio patrwm gwneud ffrog, bydd dysgwyr yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o farciau patrwm, torri dilledyn allan a’r semau a’r gorffeniadau mwyaf priodol i’w defnyddio wrth lunio dilledyn.

Addysgir y cwrs yn ein Canolfan Ffasiwn a Thecstilau sy’n gartref i fyrddau torri patrymau, peiriannau gwnïo diwydiannol a domestig ac amrywiaeth lawn o offer cynhyrchu dillad proffesiynol.

9/5/22

Gwybodaeth allweddol

Byddai sgiliau gwnïo sylfaenol yn fanteisiol ond ddim yn hanfodol.

Bydd dysgwyr yn cofnodi tystiolaeth o’u cynnyrch mewn llyfryn i’w asesu. Mae’r cwrs yn rhedeg dros wythnos ac yn cael ei addysgu yn y stiwdio ffasiwn. Mae’r dosbarthiadau’n dechrau am 10am ac yn gorffen am 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau rhan-amser eraill yn nhymor yr hydref neu ystyried cyrsiau amser llawn ar Gampws Llwyn y Bryn h.y. Celf a Dylunio Lefel 3, Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio.

Bydd adnoddau ac offer yn cael eu darparu ond bydd rhaid i ddysgwyr brynu defnydd o’u dewis nhw ar gyfer eu ffrog sifft.