Gofaint Arian (Lefel 2)
Rhan-amser
Lefel 2
Llwyn y Bryn
10 weeks
Ffôn:
01792 284021 (Llwyn y Bryn)
E-bost: enquiries@gcs.ac.uk
Trosolwg
Bwriad y tri chwrs 10 wythnos yw ehangu a datblygu’ch sgiliau o Lefel 1.
- Cwrs 1: Byddwch yn dylunio a gwneud bangl, cyff neu freichled arian. Byddwch hefyd yn archwilio gweithio gydag arian a defnyddiau eraill, er enghraifft, PMC, ailgylchu, defnyddio gwrthrychau a ganfuwyd a defnyddio tecstilau gydag arian. Gallwch weithio gyda chymysgedd o fetelau sy’n cyfuno copr, arian, efydd ac aur.
- Cwrs 2: Byddwch yn dysgu amrywiaeth o dechnegau gweadu a ffurfio gan gynnwys rhwydennu, cromennu, ffurfio plygion, ymdoddi, defnyddio’r felin rolio ar gyfer gweadu arian a defnyddio morthwylion a bonion. Byddwch wedyn yn dylunio a gwneud darn o emwaith arian gan ddefnyddio unrhyw un o’r technegau hyn yn eich dyluniad.
- Cwrs 3: Byddwch yn dylunio a chynhyrchu darn o emwaith wedi’i ysbrydoli gan of arian o’ch dewis. Bydd hyn yn annog dull dylunio unigol i roi modd i fyfyrwyr ddatblygu eu harddull unigol eu hunain o wneud gemwaith. Mae’r prosiect hwn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer dilyniant i’r cyrsiau Lefel 3 mewn gofaint arian.
Nid yw’r cwrs hwn yn rhedeg ar hyn o bryd .
Gwybodaeth allweddol
Mae pob cwrs Gofaint Arian yn annibynnol o’r lleill – byddwch yn dysgu sgiliau sylfaenol ar bob cwrs yn ôl yr angen.
Mae iechyd a diogelwch yn agwedd bwysig ar y cwrs.
Darperir yr holl offer mewn gweithdy llawn cyfarpar. Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu eu harian eu hunain sydd ar gael yn www.cooksongold.com.
Bydd cost y defnyddiau yn dibynnu ar ddyluniadau unigol a dewis cerrig. Bydd o leiaf un prosiect i’w gwblhau ar bob cwrs.
Ffi stiwdio £10