Skip to main content

Ffotograffiaeth Ffilm Ddu a Gwyn

Rhan-amser
Lefel 3
AGORED
Llwyn y Bryn
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Mae’r cwrs hwn yn archwilio’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ffotograffiaeth ffilm dd a gwyn, gan gynnwys y broses ddatblygu. Dangosir i ddysgwyr sut i ddefnyddio camera SLR ffilm gan archwilio cyflymderau caeadau, agorfa ac amrywiaeth o osodiadau. Trwy ddefnyddio cyfleusterau’r ystafell dywyll ar y campws bydd dysgwyr yn datblygu eu ffilm a chynhyrchu amrywiaeth o ganlyniadau ffotograffig du a gwyn.

Ychwanegwyd Mawrth 2021

Gwybodaeth allweddol

Byddai rhai sgiliau a phrofiad o ffotograffiaeth yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol.

Addysgir y cwrs mewn gweithdy/stiwdio/ystafell dywyll trwy amrywiaeth o weithdai ymarferol, tair awr yr wythnos dros 10 wythnos yn amodol ar asesiadau parhaus

Bydd sawl cyfle gan gynnwys cyrsiau rhan-amser eraill, Celf a Dylunio Lefel 3, Y Cyfryngau Creadigol Lefel 3, Diploma Sylfaen Celf a Dylunio.