Ffasiwn Cynaliadwy
Trosolwg
Bydd y cwrs hwn yn eich annog i archwilio ac arbrofi gydag amrywiaeth o ddeunyddiau a thechnegau tecstiliau cynaliadwy y gellir eu defnyddio i uwchgylchu dillad neu nwyddau y tu mewn nad oes eu heisiau. Cewch fynediad i’n stiwdios a’n hoffer ffasiwn a thecstiliau o’r radd flaenaf sy’n cynnwys torrwr laser, argraffydd tecstiliau digidol a meddalwedd dylunio tecstiliau.
Bydd dulliau mwy traddodiadol hefyd yn cael eu harchwilio trwy dechnegau trin ffabrig i greu canlyniad terfynol ffasiwn a thecstiliau arloesol.
Ychwanegwyd Mehefin 2020