Dylunio tecstilau cynaliadwy ar gyfer y tu mewn
Trosolwg
Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn archwilio ffordd arbenigol o adfywio ac ail-lunio hen ffabrigau gan roi cynnig ar ddulliau ymarferol a thraddodiadol wedi’u cyfuno â dulliau modern. Gan ddilyn llyfryn cwrs gorfodol a briff cwrs, byddwch yn creu samplau o waith sy’n arddangos y sgiliau y byddwch chi’n eu dysgu a’u datblygu megis printio bloc a phrintio â sgrin sidan a defnyddio’r dulliau hyn trwy drin y ffabrig gan ddefnyddio’ch dyluniad patrwm wyneb eich hun.
Gan adeiladu corff o samplau datblygedig ar gyfer darnau tecstilau mewnol terfynol, byddwch yn creu dyluniad arwyneb a fydd yn gorchuddio wyneb y ffabrig o’ch dewis, a byddwch wedyn yn uwchgylchu hwn i ddal pethau fel clustogau, lliain bwrdd, matiau bwrdd, matiau diod, gorchuddion sedd ac ati.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi ffyrdd hawdd ac effeithiol i chi o adfywio defnyddiau a ffabrigau yn ddarnau mewnol, gan eich cynorthwyo gyda sgiliau gydol oes sydd â chynaliadwyedd mewn golwg.
Ychwanegwyd Mehefin 2021