Dylunio a Darlunio Ffasiwn
Trosolwg
Mae’r cwrs cyflwyniad hwn i ddylunio ffasiwn yn eich annog i archwilio ystod eang o dechnegau darlunio digidol a thechnegau darlunio â llaw sy’n berthnasol i ffasiwn.
Byddwch yn arbrofi trwy ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau a phrosesau gwahanol er mwyn datblygu darluniadau yn eich arddull unigryw eich hun er mwyn i chi gyflwyno eich gwaith mewn modd cyffrous a diddorol. P’un ai ydych yn bwriadu cyflwyno’ch gwaith yn broffesiynol, creu gwaith ar gyfer eich portffolio neu’n bwriadu dilyn y cwrs er pleser yn unig, byddwch chi’n sicr yn ennill sgiliau gwerthfawr i gefnogi’ch anghenion.
Ychwanegwyd Mehefin 2020