Dilyniannu Cerddoriaeth - cyflwyniad
Trosolwg
Mae’r cwrs hwn yn addysgu dysgwyr sut i gynhyrchu dilyniant cerddoriaeth wedi’i drefnu.
Mae dilyniannydd cerddoriaeth yn un o’r darnau pwysicaf o offer sy’n cael ei ddefnyddio yn ein stiwdios cartref. Dyma lle rydym yn recordio, golygu a phrosesu llawer o’r drwm electronig, y bas, a’r rhannau synth a grëwyd ar gyfer ein cynyrchiadau. Mae llawer o wahanol fathau o’r dyfeisiau hyn ar gael, mae’r mwyafrif ohonyn nhw’n seiliedig ar feddalwedd.
Byddwch yn dysgu sut i weithredu cymwysiadau cyfrifiadurol ac yn deall swyddogaethau sylfaenol dilyniannydd meddalwedd. Disgwylir i chi gynhyrchu trefniant ac arddangos y defnydd o aml-dracio gan ddefnyddio technegau trefnu syml.
Gan ddefnyddio gweithfan sain ddigidol fodern bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu eu syniadau cerddorol eu hunain. Mae’r pynciau allweddol yn cynnwys:
• Gosod y meddalwedd.
• Cysylltiadau a llwybro.
• Recordio a golygu MIDI.
• Defnyddio ategion fel offerynnau ac effeithiau.
• Defnyddio samplau.
• Cwanteiddio.
• Arferion da o ran rheoli ffeiliau a phrosiectau.
Bydd pwyslais ar ddefnydd creadigol o’r meddalwedd.
Gwybodaeth allweddol
Bydd asesiadau’n seiliedig ar gwestiynu ac arddangosiadau ymarferol.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig y cymwysterau cerddoriaeth amser llawn canlynol: