Datblygu Technegau Gwneud Printiau
Rhan-amser
Lefel Mynediad 2
AGORED
Llwyn y Bryn
Ffôn:
01792 284021 (Llwyn y Bryn)
E-bost: enquiries@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r cwrs hwn yn ychwanegu at y technegau gwneud printiau a ddysgwyd yn ystod Cyflwyniad i Wneud Printiau, Mynediad Lefel 1. Cewch gyfle i archwilio technegau gwneud printiau ymhellach, gan arbrofi gyda chyfuniadau lliw a chreu printiau haenog.
Pan fyddwch wedi archwilio’r opsiynau printio amrywiol byddwch yn canolbwyntio ar eich hoff dechneg i greu print terfynol.
Ychwanegwyd Mehefin 2019
Nid yw’r cwrs hwn yn rhedeg ar hyn o bryd .
Gwybodaeth allweddol
Byddai cwblhau Cyflwyniad i Wneud Printiau yn fuddiol.
Addysgir y cwrs trwy gyfres o weithdai yn yr ystafell ddosbarth lle cewch eich asesu’n barhaus. Cewch eich asesu ar eich defnydd o dechnegau gwneud printiau yn ystod y gweithdai a’ch gallu i ddefnyddio’r offer a’r defnyddiau angenrheidiol mewn ffordd ddiogel a phriodol.
Yn ogystal ag ystyried cyrsiau rhan-amser eraill, mae sawl cyfle amser llawn gan gynnwys Lefel 2 Celf a Dylunio, Lefel 3 Celf a Dylunio, Diploma Sylfaen Celf a Dylunio a Gradd Sylfaen Dylunio Ffasiwn a Thecstilau.
Bydd yr holl ddefnyddiau’n cael eu darparu.