Datblygu Patrymau Arwyneb ar gyfer Cynhyrchion Tecstilau
Trosolwg
Yn ystod y cwrs 10 wythnos hwn byddwch yn archwilio amrywiaeth o dechnegau tecstilau trwy gyfres o weithdai yn yr ystafell ddosbarth. Mae rhai o’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu yn cynnwys pwytho addurniadol, gwehyddu, sgrin-brintio, batic a shibori.
Byddwch yn datblygu portffolio o waith paratoi seiliedig ar friff y prosiect tecstilau a fydd yn arwain at gynhyrchu cynnyrch terfynol.
Byddwch yn cynhyrchu syniadau ar gyfer patrwm arwyneb gan gymryd ysbrydoliaeth o’r ardal leol.
Ychwanegwyd Mehefin 2019