Skip to main content

Cyflwyniad i Luniadu

Rhan-amser
Lefel 1
AGORED
Llwyn y Bryn
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Bydd y cwrs rhagarweiniol hwn i luniadu yn eich annog i archwilio amrywiaeth o dechnegau gwneud marciau gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau a deunyddiau. Cewch eich cyflwyno i luniadu’r ffurf ddynol (bywluniadu) a thrwy gyfres o weithdai cewch eich annog i arbrofi i ddatblygu’ch canlyniadau unigryw eich hun.

Ychwanegwyd Mehefin 2020

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen unrhyw sgiliau na phrofiad blaenorol gan mai cwrs rhagarweiniol yw hwn.

Mae’r cwrs hwn yn seiliedig ar weithdai. Addysgir y cwrs drwy amrywiaeth o weithdai ymarferol, 3 awr yr wythnos dros 10 wythnos ac mae’n cynnwys asesiadau parhaus.

Mae sawl cyfle gan gynnwys cyrsiau rhan-amser eraill, Celf a Dylunio Lefel 2, Celf a Dylunio Lefel 3, neu’r cwrs Diploma Sylfaen Celf a Dylunio.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu:

  • Dydd Llun-Dydd Iau: 9am-4.30pm
  • Dydd Gwener: 9am-4pm.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.