Cwrs Ymwybyddiaeth Canser ar gyfer Tylino Corff
Rhan-amser
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
Ffôn:
01792 284049 (Broadway)
E-bost: enquiries@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae hwn yn gwrs datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer ymarferwyr therapi cyfannol yn unig (ymarferwyr adweitheg, aromatherapi, tylino corff neu reiki).
Bydd myfyrwyr sy’n gweithio ar hyn o bryd tuag at gyrsiau adweitheg, aromatherapi a thylino yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn cael eu hystyried hefyd.
Ychwanegwyd Hydref 2018
Nid yw’r cwrs hwn yn rhedeg ar hyn o bryd .
Gwybodaeth allweddol
Diploma L3 Adweitheg, Diploma L3 Aromatherapi neu Dystysgrif Tylino Swedaidd.
Lefel Ymarferydd Reiki ac uwch (ddim yn berthnasol ar gyfer Reiki Lefel 1).
Bydd rhaid i’r holl ddarpar fyfyrwyr ddod i sesiwn arweiniad cyn cofrestru.
Byddwch yn datblygu’ch dealltwriaeth a’ch sgiliau ymarferol i ddarparu triniaethau yn gymwys i gleientiaid sy’n dioddef o ganser neu’n gwella ar ôl cael canser.
Byddwch yn dod i’r Coleg am un diwrnod.