Skip to main content

Clytwaith (Cyfres yr Haf)

Rhan-amser
Lefel Mynediad 3
Llwyn y Bryn
5 diwrnod
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Dysgwch sut i wneud ffabrig clytwaith o amrywiaeth o ffabrigau wedi’u gwehyddu y gallwch eu defnyddio i wneud dodrefn meddal, dillad gwely, neu ddillad. Gallwch ddefnyddio ffabrigau crefft, neu gallwch uwchgylchu hen eitemau yn lle eu hanfon i’r  safle tirlenwi.

Byddwn yn dysgu dau ddull gwahanol o glytwaith: clytwaith o waith llaw a chlytwaith wedi’i wneud gan ddefnyddio peiriant gwnïo. Byddwch yn dysgu sut i ddewis y ffabrigau a’r templedi cywir ar gyfer eich dyluniad a sut i’w gwnïo gyda’i gilydd gan ddefnyddio llaw/peiriant.

Gwybodaeth allweddol

Addysgir y cwrs wyneb yn wyneb yn yr ystafelloedd gwaith ar Gampws Llwyn y Bryn. Mae’r cwrs yn dilyn patrwm gosod lle mae dysgwyr yn cwblhau tasgau wythnosol dan arweiniad. Bydd lluniau’n cael eu tynnu o ganlyniadau’r tasgau hyn i’w huwchlwytho i weithlyfrau digidol, sy’n cael eu cyflwyno ar gyfer marcio ar ddiwedd y cwrs. Nid oes arholiadau.

Gallai dilyniant o unrhyw gwrs rhan-amser gynnig llwybr i gyrsiau amser llawn mewn celf a dylunio. I ddysgwyr sy’n oedolion sy’n ystyried gyrfa greadigol, gallai’r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio fod yn gam da nesaf.