Celf Tecstilau Creadigol
Trosolwg
Bydd y cwrs yn eich annog i archwilio ac arbrofi gydag amrywiaeth o ddefnyddiau a thechnegau tecstilau y gellir eu defnyddio i greu celf tecstilau.
Byddwch yn defnyddio ein hoffer mwyaf diweddar, sy’n cynnwys torrwr laser, argraffydd tecstilau digidol a pheiriant brodio digidol. Caiff dulliau mwy traddodiadol eu harchwilio hefyd trwy frodwaith, sgrin-brintio a dulliau gwnïo arbrofol eraill.
Ychwanegwyd Rhagfyr 2019
Gwybodaeth allweddol
Mae sawl cyfle gan gynnwys Lefel 2 Celf a Dylunio, Lefel 3 Celf a Dylunio, Diploma Sylfaen Celf a Dylunio, Lefel 3 Astudiaethau Sylfaen a Gradd Sylfaen Dylunio Ffasiwn a Thecstilau.