Skip to main content

Arlunio ar gyfer Lles (Cyfres yr Haf)

Rhan-amser
Lefel 1
AGORED
Llwyn y Bryn
5 days
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Mae’r cwrs hwn yn gyfle i ddatblygu sgiliau arlunio a gwneud marciau gyda ffocws ar ymlacio a lles. Gan ddefnyddio arlunio arsylwadol fel man cychwyn, cewch eich annog i ddatblygu dealltwriaeth o sut i gymhwyso mewn tôn, llinell a ffurf. Yna byddwch yn archwilio technegau gwneud marciau mynegiannol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau a chyfryngau. Ffocws y sesiynau yw eich lles ac arlunio ar gyfer ymlacio. Mae arlunio yn fan cychwyn sylfaenol ar gyfer datblygu sgiliau creadigol pellach, felly mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn celf a dylunio. Addysgir y cwrs hwn yn y stiwdio arlunio yn Llwyn y Bryn sy’n llawn cyfarpar fel îsls a deunyddiau arlunio.

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen profiad blaenorol, dim ond diddordeb yn y maes pwnc. Mae’r ffocws ar arlunio ar gyfer lles.