Skip to main content

Arferion Stiwdio Fodern

Rhan-amser
Lefel 1
AGORED
Llwyn y Bryn
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Nod y cwrs hwn yw rhoi modd i ddysgwyr brofi amrywiaeth eang o adnoddau a thechnegau stiwdio gerdd: recordio sain, dilyniannu MIDI, samplu a synthesis.

Bydd dosbarthiadau yn cynnig dull seiliedig ar weithdy lle bydd dysgwyr yn cael eu hannog i ddatblygu eu cyfansoddiadau cerddoriaeth eu hunain, a gobeithio erbyn y diwedd y bydd ganddyn nhw draciau gorffenedig i fynd â nhw gyda nhw.

Mae’r cwrs yn cynnwys dwy Uned Lefel 1 Agored: Dilyniannu Cerddoriaeth - Cyflwyniad (BRO301) a Sgiliau Technoleg Recordio Sain a Cherddoriaeth (CAB642). Addysgir y cwrs ar Gampws Llwyn y Bryn yn yr ystafell gyfrifiaduron Mac sydd newydd gael ei huwchraddio a’r stiwdio recordio sydd newydd gael ei hailadeiladu.

19/5/2022

Gwybodaeth allweddol

Does dim gofynion mynediad ffurfiol. Tybir bod gennych lythrennedd cyfrifiadurol yn ogystal â rhyw lefel o allu perfformio cerddoriaeth (e.e. gitâr, canu, allweddell, drymiau ac ati).

Addysgir y cwrs am dair awr yr wythnos. Mae’n gymysgedd o addysgu yn yr ystafell ddosbarth (h.y. darlithoedd byr ar bynciau allweddol) a gwaith ymarferol naill ai yn y labordy cyfrifiaduron neu’r stiwdio recordio. Asesir elfennau Agored yn barhaus.

UAL Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth (Lefel 3).