Skip to main content

Paratoi ar gyfer Dysgu (Cyn-fynediad) Lefel 2

Rhan-amser
Lefel 2
AGORED
Tycoch
6 neu 10 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Cwrs paratoi ar gyfer addysg oedolion

Mae Paratoi ar gyfer Dysgu (Cyn-fynediad) yn gwrs Lefel 2 byr sy’n bwriadu eich helpu i ennill y sgiliau sydd eu hangen i gwblhau aseiniadau’n llwyddiannus ar lefel uwch.

Mae’r cwrs wedi cael ei greu i gynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer astudiaethau academaidd llwyddiannus. Mae Dysgu ar gyfer Dilyniant wedi’i strwythuro i roi cyflwyniad cyffredinol i chi i fyd addysg bellach, gan eich galluogi i ddewis llwybrau dilyniant realistig.

Amcanion y cwrs:

  • Ennill dealltwriaeth o’r gofynion i astudio ar lefel uwch
  • Datblygu sgiliau astudio ac ysgrifennu academaidd
  • Ysgrifennu aseiniadau i’r lefel ofynnol.  

Canlyniadau’r cwrs:

  • Bydd myfyrwyr yn gallu ymdopi’n well â gofynion cwrs Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach Lefel 2 neu gwrs Mynediad Lefel 3
  • Bydd myfyrwyr yn gallu datblygu sgiliau rheoli astudio hanfodol
  • Bydd myfyrwyr yn gallu ysgrifennu’n academaidd i baratoi ar gyfer cyrsiau yn y dyfodol.

Sylwch – nid yw cwblhau’r cwrs Paratoi ar gyfer Dysgu byr yn golygu y byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i gwrs blwyddyn Mynediad Lefel 3. 

Gwybodaeth allweddol

Gyda gofynion y rhaglen Lefel 2 hon a’r disgwyliadau i symud ymlaen i Lefel 3, mae angen i fyfyrwyr fod yn ddibynadwy ac yn onest, bod ag agwedd gadarnhaol, bod yn ymroddedig, yn frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant i astudio.

Dylai myfyrwyr sicrhau bod eu sgiliau presennol yn ddigonol i allu ymdopi â gofynion y cwrs Lefel 2 hwn. Disgwylir i fyfyrwyr feddu ar gymhwyster llythrennedd Lefel 1 cyn gwneud cais. 

Mae’r cwrs hwn yn rhedeg am naill ai chwech neu ddeg wythnos, un diwrnod/noson  neu ddwy noson yr wythnos yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn. Mae amserau’r cwrs yn amrywio hefyd i weddu i’ch anghenion:  

Lleoliad: Campws Tycoch

  • Bob dydd Gwener (9.30am-2pm)  

Neu

  • Bob dydd Iau (4.30-8.30pm)

Neu

  • Bob dydd Mercher (1-5pm)

Neu  

  • Bob dydd Mawrth (4.30-8.30pm)

Neu

  • Bob dydd Mawrth a dydd Iau (6-9pm)

Addysgu wyneb yn wyneb heb opsiwn ar-lein.

Mae’r cwrs yn cynnwys:

  • Ysgrifennu traethodau
  • Dadleuon academaidd
  • Cyflwyniad unigol
  • Cynllunio gyrfa
  • Rhifedd. 

Efallai y bydd myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i raglen Lefel 3 yn y Coleg, yn bennaf raglen Mynediasd i AU. 

Bydd myfyrwyr sydd angen rhagor o amser i ddatblygu yn cael cyfle i astudio ar y cwrs Dilyniant Oedolion ar Lefel 2.

Gall myfyrwyr wneud cais ar-lein ac ymuno â’r cwrs yn uniongyrchol ar y dyddiad dechrau neu (argymhellir eich bod yn) e-bostio’r cyfeiriad isod. Yna, bydd myfyrwyr yn cael eu gwahodd i’r Coleg am sesiwn wybodaeth. Bydd hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ofyn cwestiynau am y rhan fwyaf o gyrsiau i oedolion sydd ar gael yn yr adran a bydd cyfleoedd i gofrestru ar y cwrs paratoi hwn hefyd.    

Gwybodaeth gyswllt: leanne.dalling@gcs.ac.uk

Learning for Progression
Cod y cwrs: VB139 PTE
14/02/2025
Tycoch
10 weeks
Fri
9.30am - 2pm
£0
Lefel 2
Learning for Progression
Cod y cwrs: VB139 ETD
06/03/2025
Tycoch
10 weeks
Thu
5 - 9pm
£0
Lefel 2
Learning for Progression
Cod y cwrs: VB139 PTC
02/04/2025
Tycoch
10 weeks
Wed
1 - 5pm
£0
Lefel 2
Learning for Progression
Cod y cwrs: VB139 ETBD
13/05/2025
Tycoch
6 weeks
Tue and Thu
5.30 - 8.30pm
£0
Lefel 2