Addysg a Hyfforddiant Lefel 3 - Dyfarniad
Trosolwg
Mae’r dyfarniad Addysg a Hyfforddiant yn addas i’r rhai sydd ar hyn o bryd yn hyfforddi, yn asesu neu yn newydd i addysgu ac y mae angen cymhwyster arnynt ar gyfer eu rôl.
Mae’n seiliedig ar Fodel 2, lle mae rhai o’r unedau wedi cael eu tynnu o ddysgu a datblygiad.
Gellir defnyddio’r cymhwyster hefyd at ddibenion datblygiad proffesiynol parhaus.
Gwybodaeth allweddol
Rhaid bod dysgwyr mewn rôl lle maen nhw naill ai’n addysgu neu’n asesu myfyrwyr er mwyn cyflawni unedau dysgu a datblygiad dewisol y cymhwyster.
Bydd cyfweliad cyn y cwrs yn ofynnol gyda thiwtor y cwrs i sicrhau bod dysgwyr yn gallu bodloni canlyniadau dysgu’r cymhwyster.
Mae dwy ran i’r dyfarniad, gan gynnwys unedau gorfodol sy’n cael eu hastudio mewn amgylchedd ystafell ddosbarth a’i hasesu trwy aseiniadau, yn ogystal ag uned ddewisol sy’n cynnwys ymweliadau â’r gweithle, lle bydd yn ofynnol i ddysgwyr gasglu tystiolaeth o gyd-destun dysgu seiliedig ar waith.
Unedau gorfodol
- Deall rolau, cyfrifoldebau a pherthnasoedd mewn addysg
- Deall egwyddorion ac arferion asesu
Unedau dewisol
- Hwyluso dysgu a datblygiad ar gyfer unigolion
- Hwyluso dysgu a datblygiad mewn grwpiau
Ar ddiwedd y cymhwyster hwn, caiff y portffolio o dystiolaeth ei gyflwyno ar gyfer asesu a sicrhau ansawdd.
£500 y pen.