Cafodd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Coleg Gŵyr Abertawe, Sarah King, ei gwahodd i Stryd Downing yr wythnos hon (dydd Llun 4 Mawrth) i ddechrau dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (DRhM) 2024.
Gwahoddwyd Sarah i gymryd rhan mewn sesiwn bord gron ar y Menopos yn y Gweithle cyn DRhM heddiw (dydd Gwener 8 Mawrth).
Cafodd y ford gron ei chroesawu gan y Gweinidog Mims Davies ac roedd detholiad o arweinwyr benywaidd yn bresennol o nifer o sectorau hefyd.
Roedd y trafodaethau agored yn canolbwyntio ar gymorth cyflogwyr i bobl sydd wedi’u heffeithio gan y menopos yn y gweithle a thema DRhM sef ysbrydoli cynhwysiant gan ei bod yn gysylltiedig â chymorth menopos.
Roedd y ford gron hefyd yn nodi cyhoeddi adroddiad cynnydd 12-mis Hyrwyddwr Cyflogaeth y Menopos, Shattering the Silence am y Menopos ac ail-lansiad yr Hyb Adnoddau Menopos ar y porth ‘Help to Grow’.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi chwarae rhan hollbwysig o ran hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r menopos yn y gweithle, ac mae gennym agenda blynyddol o sesiynau gwybodaeth, gweithdai a hyfforddiant sydd â’r nod o addysgu gweithwyr ar sut i ddeall a darparu cymorth i fenywod sy’n wynebu heriau cysylltiedig â’r menopos yn y gwaith.
Cydnabuwyd yr ymdrech arbennig hon pan enillodd y Coleg y teitl Menter Iechyd a Lles orau yng ngwobrau cenedlaethol CIPD y llynedd. Maen nhw hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol gwobrau CIPD Cymru ar gyfer y Fenter Les orau sydd i’w chynnal ar 15 Mawrth, y Fenter Les orau a’r Sefydliad Sector Cyhoeddus gorau yng Ngwobrau AD Prydain ar 16 Ebrill a’r Fenter Iechyd Menywod orau yng Ngwobrau Inside Out ar 13 Mehefin.
Wrth siarad am y gwahoddiad, dywedodd Sarah: “Roedd cael gwahoddiad i gymryd rhan yn y digwyddiad bord gron yn Stryd Downing yn anrhydedd mawr ac yn brofiad anhygoel. Mae ein gwaith o godi ymwybyddiaeth a darparu cymorth ar gyfer iechyd a lles menywod yn y Coleg wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol ac yn parhau i gael effaith gadarnhaol.”
Mae gweithgareddau ychwanegol ar gyfer DRhM yn y Coleg yr wythnos hon yn cynnwys casgliad o straeon fideos ysgogol gan uwch arweinwyr. Yn ogystal, anogwyd staff i ddathlu cyflawniadau a chyfraniadau menywod ysbrydoledig yn y sefydliad trwy eu henwebu am gydnabyddiaeth.