Skip to main content

Egwyddorion Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy Lefel 2 (Wamitab) – Tystysgrif

GCS Training
Lefel 2
Wamitab
Llys Jiwbilî
TBC
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn eich cyflwyno i’r sector Gwastraff ac Ailgylchu. Mae’n gosod sylfaen gadarn i amrywiaeth o rolau galwedigaethol mewn casglu, cludo, trin a rheoli gwastraff ac adnoddau, ac mae’n cwmpasu’r amrywiaeth eang o wybodaeth sydd ei hangen i weithio ar lefel weithredol ar safleoedd rheoli gwastraff.

Mae’r cymhwyster yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar weithwyr i weithio yn unol â gofynion y diwydiant ailgylchu ar gyfer gweithgareddau casglu, derbyn, gwahanu a phrosesu yn ogystal â gweithgareddau Ailgylchu Offer Trydanol ac Electronig Gwastraff. 

Gwybodaeth allweddol

Addysgir y cymhwyster trwy gyfuniad o ddysgu yn y gweithle ac yn yr ystafell ddosbarth, wyneb yn wyneb neu ar-lein, yn ogystal â sesiynau un-i-un gyda’ch tiwtor.

Gellir addysgu’r rhaglen yn hyblyg, i weddu i anghenion y dysgwr a’r cyflogwr. 

Unedau gorfodol

  • Sut i weithio’n ddiogel yn y diwydiant gwastraff/ailgylchu
  • Deall gwarchodaeth amgylcheddol yn y diwydiant gwastraff ac ailgylchu
  • Sut i nodi a datrys anghydfodau
  • Deall egwyddorion y diwydiant gwastraff/ailgylchu
  • Deall egwyddorion nodi a dosbarthu gwastraff
  • Deall ‘dyletswydd gofal’ yn y diwydiant gwastraff/ailgylchu
  • Cynllunio, dyrannu a monitro gwaith tîm
  • Hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth yn y sector ynni a chyfleustodau

Unedau dewisol

Gall dysgwyr ddewis o blith amrywiaeth o unedau dewisol, gan gynnwys:

  • Deall y targedau a’r rhesymau am ailgylchu
  • Deall systemau rheoli
  • Gwybod am dechnolegau trin gwastraff
  • Agweddau technegol ar reoli gwastraff ac adnoddau
  • Sut i adnabod a chofnodi gwastraff peryglus
  • Deall trwyddedau amgylcheddol yng Nghymru a Lloegr
  • Perfformio gwaith glanhau stryd yn fecanyddol

Egwyddorion Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy Lefel 3 (Wamitab) – Tystysgrif

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys:

  • Llyfrau gwaith
  • Astudiaethau achos
  • Aseiniadau
  • Trafodaeth broffesiynol