Meddyliwch am y pynciau rydych yn llwyddo orau ynddynt a’r hyn rydych yn mwynhau ei astudio.
Mae rhai pynciau’n cael eu hasesu trwy arholiadau, ac mae eraill yn cyfuno gwaith cwrs ac arholiadau, felly chwiliwch am y cwrs sy’n fwyaf addas i chi. Cofiwch edrych ar ofynion mynediad y cwrs.
Dewch i un o’n nosweithiau agored a siarad â’n darlithwyr.
Mae’n cynghorwyr myfyrwyr yn ymweld â llawer o ysgolion yn yr ardal hefyd, ac felly gallwch gael gair â nhw neu’ch cynghorwr gyrfaoedd yn yr ysgol.
Po gynharaf y gwnewch gais, gorau i gyd fydd eich siawns o gael lle ar eich cwrs dewis cyntaf.
Ar ôl i chi ddewis eich cwrs, gallwch ymgeisio ar-lein.
Ar ôl cael eich cais, byddwn yn anfon pob gohebiaeth bellach atoch drwy e-bost (neu drwy lythyr os nad oes e-bost gennych), felly defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost personol ac nid eich cyfeiriad e-bost ysgol.
Rydym am wneud yn siŵr bod y cwrs rydych wedi’i ddewis yn addas i chi, ac felly bydd gofyn i chi fynd i gyfweliad yn wich ysgol neu yn y Coleg.
Bydd y cyfweliad yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau i ni am y cwrs a’r Coleg, a bydd yn rhoi cyfle i ni ddod i'ch adnabod. Cewch wybod a yw’r cwrs yn cynnwys lleoliadau gwaith, ymweliadau addysgol neu gostau ychwanegol ar gyfer iwnifform neu gyfarpar.
Byddwch yn gallu dweud wrthych yn eich cyfweliad a fuoch chi’n llwyddiannus a byddwn yn rhoi llyfryn cynnig cwrs i chi.
Bydd rhaid i chi ddod i'r Coleg a chofrestru ar y dyddiad a nodir yn wich llyfryn cynnig cwrs. Gallwch drefnu unrhyw ofynion cyllid neu chludiant hefyd.
Peidiwch â phryderu os nad ydych yn cael y canlyniadau TGAU roeddech chi’n eu disgwyl neu roedd eu hangen arnoch i ddilyn y cwrs – dewch i'ch apwyntiad a gallwn fynd trwy’r opsiynau gyda chi. Mae cwrs ar gael i bawb.
Mae bywyd myfyriwr yn dechrau gyda llawer o weithgareddau I'ch helpu i ymgartrefu yn y Coleg a gwneud ffrindiau newydd.
Byddwch hefyd yn cwrdd â’ch tiwtor, cael eich amserlen a phopeth arall sydd ei angen arnoch i sicrhau bod eich taith fel myfyriwr yn dechrau’n dda!