Skip to main content

Cronfa Galedi Coleg Gŵyr Abertawe

Gall y Gronfa Galedi gynnig cymorth i fyfyrwyr Addysg Uwch y DU sy’n astudio cyrsiau ac yn profi anawsterau ariannol. Mae’r Gronfa yn ffynhonnell cymorth ariannol ychwanegol i unrhyw fyfyriwr (os yw’n gymwys) sydd wedi cael benthyciad myfyriwr ac sy’n dioddef o galedi ariannol. Cyn ystyried unrhyw gais, rhaid i bob ymgeisydd brofi ei fod wedi chwilio’n helaeth am ffynonellau ariannol eraill, yn ogystal â phrofi ei fod wedi defnyddio ei gyfleuster gorddrafft.

Rhaid i bob myfyriwr sy’n ystyried ymgeisio gydabod bod y gronfa hon wedi’i gynllunio i helpu myfyrwyr sydd yn profi anawsterau ariannol na ellir eu hosgoi, a bod y gronfa yn rhwyd ddiogelwch i iddynt. Does dim sicrwydd y byddwch yn cymhwyso ac yn derbyn incwm. Os oes gennych gostau drud misol (nad ydynt yn hanfodol), megis Teledu Sky, taliadau ffôn symudol drud, gwyliau neu aelodaeth myfyrwyr, bydd disgwyl i chi dalu amdanynt eich hun. Ni ellir defnyddio’r gronfa dalu am unrhyw ffioedd dysgu. Caiff dyfarniad o’r gronfa ei ystyried gan banel ac nid yw’n hawl awtomatig.

Cymhwysedd

  • Rhaid i chi fod yn fyfyriwr yn y DU
  • Rhaid i chi fod yn astudio ar raglen Addysg uwch sy’n gymwys ar gyfer derbyn cymorth ffioedd dysgu. Dyma’r cyrsiau cymwys:
    • Graddau Sylfaen
    • Diplomâu Cenedlaethol Uwch (HND)
    • Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch
    • Tystysgrifau Addysg Uwch
    • Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (AHO)
  • Rhaid i chi fod yn gymwys i/yn derbyn benthyciad myfyriwr llawn a/neu unrhyw gyllid arall sydd ar gael i chi
  • Rhaid i chi fod wedi defnyddio cyfleuster gorddrafft eich banc / cymdeithas adeiladu
  • Os ydych chi’n fyfyriwr rhan-amser, rhaid i chi fod yn astudio o leiaf 50% o ddwyster eich cwrs (60 credyd y flwyddyn)
  • Ni fydd myfyrwyr sy’n gweithio i gyflogwyr sydd yn talu ei ffioedd drostynt fel rhan o gynllun (e.e. Prentisiaeth Uwch neu SFI) yn gymwys.
  • Fel arfer, bydd gofyn i fyfyrwyr nad ydynt yn derbyn cymorth statudol fod â chynllun ar waith ar gyfer eu costau byw a ffioedd cyn i’r cwrs ddechrau. Efallai y bydd eich cais yn cael ei wrthod os na fyddwch wedi gwneud hyn.

Gwneud Cais
I wneud cais am y Gronfa galedi rhaid i chi gael eich atygfeirio i Swyddog Cymorth Myfyrwyr eich maes (gall hyn fod yn hunanatgyfeiriad). Mae hyn er mwyn i chi gael cefnogaeth a chymorth i lenwi’r ffurflen gais. Gallwch chi wneud cais am gyllid ar unrhyw adeg yn ystod y cwrs a gallwch wneud cais arall os oes gennych anawsterau ariannol.

Pwyllgor y gronfa galedi
Mi fydd yr arian yn cael ei weinyddu gan Bwyllgor Cronfa Galedi Coleg Gŵyr Abertawe, sy’n cynrychioli’r Adran Gyllid, Gwasanaethau Myfyrwyr a Rheoli Addysg Uwch. Mi fydd cynrychiolwyr y pwyllgor hwn yn cwrdd fel panel yn ôl yr angen. Bydd hyn fel arfer o fewn pythefnos ar ôl derbyn y ceisiadau (yn ystod y tymor). Efallai y bydd yr amseroedd hyn yn cael eu hymestyn oherwydd amgylchiadau penodol (e.e. cyfnodau o wyliau). Gall fyfyriwr fel rheol disgwyl penderfyniad o fewn dau ddiwrnod i gyfarfod y panel.

Tystiolaeth ofynnol

  • Ffurflen galedi wedi’i chwblhau (Atodiad 1)
  • Pob cyfrif banc sydd o dan eich enw chi, gan gynnwys balans eich cyfrif cyfredol a therfyn eich gorddrafft cytunedig (os gwrthodwyd cyfleuster gorddrafft i chi, bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o hyn)
  • Manylion cyfrifon banc ar y cyd / eich partner
  • Arbedion
  • Dyledion cardiau credyd
  • Dyledion credyd eraill (e.e. Benthyciadau diwrnod cyflog)

Rhaid i chi ddarparu datganiadau ar gyfer pob un o’r cyfrifon uchod.

Asesiad o’r Penderfyniad

  • Mi fydd y Pwyllgor yn craffu ar ac yn ystyried eich amgylchiadau personol.
  • Mi fydd myfyrwyr sydd mewn perthynas yn cael eu trin fel cais AR Y CYD, felly rydym yn argymell i chi wneud apwyntiad gydag aelod o’r Tîm AU gyda’ch gilydd, er mwyn i chi gwblhau UN ffurflen.
  • Fe fyddwn yn asesi ceisiadau drwy edrych ar y gwahaniaethau rhwng GWARIANT derbyniol cymeradwy myfyrwyr a’u HINCWM disgwyliedig, gan nodi os ydynt yn gymwys neu beidio.

Cadarnhad o’r Penderfyniad

Byddwch yn derbyn ebost gan y pwyllgor caledi. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi nodi’r cyfeiriad ebost cywir ar eich ffurflen gais.

Diwygio Cais Gronfa Caledi

Gallwch ofyn i wneud newidiadau i’ch cais os oedd y wybodaeth ar y cais gwreiddiol yn anghywir, os na chwblhawyd y cais neu os yw’ch amgylchiadau wedi newid.

Apelio yn erbyn penderfyniad a waned gan Bwyllgor y Gronfa Galedi
Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad drwy ddefnyddio Polisi Gwyno Coleg Gŵyr Abertawe