Skip to main content

Echwaraeon - Gradd Sylfaen

Amser-llawn
Lefel 4/5
Tycoch
Dwy flynedd

Ffôn: 01792 284098 E-bost: he@gcs.ac.uk

Trosolwg

NEWYDD ar gyfer 2024

Corff llywodraethu: Prifysgol De Cymru

Logo Prifysgol De Cymru

 

Nod y cwrs yw paratoi dysgwyr ar gyfer gyrfaoedd mewn e-Chwaraeon a’r cyfryngau neu astudiaethau pellach, gan greu graddedigion medrus sydd â hunanreolaeth, hyder ac arbenigedd ymarferol.

Cod UCAS: F170

Gwybodaeth allweddol

Rhaid bod gennych un o'r canlynol:

  • Safon Uwch – DD
  • Proffil perthnasol BTEC Lefel 3 sef Teilyngdod/Pasio neu Pasio/Pasio/Pasio
  • Bagloriaeth Cymru - Gradd C a DE Safon Uwch
  • Mynediad i AU - Diploma Pasio gyda 60 credyd yn gyffredinol, gan gynnwys 45 credyd Lefel 3 (graddau pasio i gyd).

Mae Saesneg a Mathemateg neu’r cyfwerth yn ddymunol. Rydym yn derbyn cymwysterau fel sgiliau hanfodol a modiwlau mynediad ar lefel 2. Fel canolfan AU ehangu cyfranogiad sydd â nifer fawr o fyfyrwyr galwedigaethol o raglenni mynediad anhraddodiadol, byddem yn pryderu ynghylch gofyn am gymwysterau TGAU. Ond rydym yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ailsefyll wrth iddynt astudio gyda ni.

Efallai y bydd angen cyfweliad llwyddiannus. Gallwn ystyried oedran a phrofiad os nad yw’r meini prawf gradd wedi’u bodloni.

Amser Llawn, dydd Llun i ddydd Gwener.

Modiwlau

Lefel 4

  • Theori, Diwylliant a Hanes e-Chwaraeon
  • Strategaethau, Hyfforddi, Chwarae Cystadleuol a Seicoleg
  • Iechyd, Ffitrwydd a Lles mewn e-Chwaraeon
  • Gemau Un Chwaraewr mewn e-Chwaraeon
  • Prif Gynnwys Hashnod.

 Lefel 5

  • Dylunio Gemau Amlchwaraewr mewn e-Chwaraeon 
  • Ynysoedd yn y Ffrwd  
  • Prosiect Unigol Seiliedig ar Waith 
  • Cynllunio Digwyddiad (Prosiect Grŵp Byw) 
  • Sgiliau Proffesiynol ar gyfer e-Chwaraeon  
  • Eich Busnes mewn e-Chwaraeon.

Asesu

Aseiniadau: 100%

Gyda gradd sylfaen mewn e-Chwaraeon, gall eich dilyniant gyrfa ddatblygu ar draws amryw o lwybrau cyffrous.

Gallech ystyried symud ymlaen i radd Baglor llawn mewn Rheoli e-Chwaraeon, Marchnata, neu Ddylunio Gemau i ddyfnhau eich arbenigedd. Gallech ddilyn ardystiadau arbenigol i wella’ch sgiliau mewn meysydd fel datblygu gemau neu reoli digwyddiadau e-Chwaraeon. Gallech gymryd rhan mewn interniaethau neu rolau lefel mynediad o fewn sefydliadau e-Chwaraeon, cwmnïau gemau cyfrifiadurol, neu gwmnïau rheoli digwyddiadau i gael profiad ymarferol. Gallech archwilio rolau fel rheolwr e-Chwaraeon, arbenigwr marchnata, dylunydd gemau, neu drefnydd twrnamaint. Cadwch i fyny â thueddiadau’r diwydiant, adeiladwch rwydwaith proffesiynol, ac ystyriwch rolau arwain i ddatblygu’ch gyrfa mewn e-Chwaraeon.

Costau’r cwrs

£7,500 y flwyddyn. Mae’r Coleg yn cynnig bwrsari o £1,000 tuag at hyn ar gyfer cyrsiau amser llawn (yn amodol ar ddilyniant boddhaol).

I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

Ffioedd ychwanegol

Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn:

  • Teithio i’r Coleg neu’r lleoliad ac yn ôl 
  • Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cofau bach USB) 
  • Argraffu a rhwymo 
  • Gynau ar gyfer seremonïau graddio.
  • Cyfrifiadur gemau (opsiynol) £800
  • Gwe-gamera (opsiynol) £30
  • Penset (opsiynol) £45.

Sylwch fod y ffioedd dysgu a nodwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24 a gallent gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan y brifysgol i gael rhagor o wybodaeth.  

Achredu Dysgu Blaenorol (APL)

Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr yn gallu cael cydnabyddiaeth am ddysgu blaenorol. Cysylltwch i gael cyngor os ydych yn teimlo bod hyn yn berthnasol i chi.