Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy Lefel 3 (CIWM) - Diploma
Trosolwg
Mae’r cymhwyster hwn yn addas i’r rhai mewn rolau arweinydd tîm a goruchwylio, sydd yn weithwyr profiadol sydd am gael tystiolaeth o’u cymhwysedd.
Asesir y cymhwyster yn yr amgylchedd gwaith, ac mae’n gofyn i’r dysgwr ddangos bod ganddo’r wybodaeth a’r sgiliau gofynnol i reoli cyfleuster rheoli gwastraff.
Gwybodaeth allweddol
Bydd aseswr yn ymweld â gweithle’r dysgwr i arsylwi ei waith ‘yn y swydd’ bob pedair i chwe wythnos. Bydd yr ymweliadau yn digwydd ar sail un-i-un i weddu i anghenion y dysgwr a’r cyflogwr. Bydd aseswyr yn gosod tasgau, darparu cymorth a’ch arwain trwy’r cymhwyster.
Unedau gorfodol
- Gosod amcanion a darparu cymorth ar gyfer aelodau tîm
- Cynllunio, dyrannu a monitro gwaith tîm
- Cynnal asesiad risg iechyd a diogelwch yn y gweithle
- Datblygu a gweithredu cynllun asesu risg yn eich maes cyfdrifoldeb eich hun
- Hyrwyddo cynaliadwyedd ac arferion da amgylcheddol yn y diwydiant ailgylchu
- Datblygu perfformiad personol
Unedau dewisol
Rhaid i ymgeiswyr ddewis y llwybr cyffredinol neu’r llwybr ailddefnyddio.
Wrth i ddysgwyr symud trwy’r cymhwyster, byddan nhw’n adeiladu e-bortffolio o dystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol o’r gweithgareddau ymarferol a wnaed yn y gweithle i ddangos gwybodaeth a chymhwysedd. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys:
- Cwestiynau ac atebion
- Arsylwadau
- Tystebau
- Tystiolaeth gweithle
- Astudiaethau achos
- Llyfrau gwaith
- Trafodaeth broffesiynol