Skip to main content
Creative/digital apprentices at GR Digital

Adroddiad gan Estyn yn canmol Darpariaeth Dysgu Seiliedig ar Waith y Coleg

Heddiw (27 Mawrth) cyhoeddwyd Adroddiad Estyn (Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru) Coleg Gŵyr Abertawe. Yn yr adroddiad, cafodd y Coleg ei ganmol am ei ddarpariaeth prentisiaethau/Dysgu Seiliedig ar Waith a gynigir yng Nghymru.

Mae hyn yn newyddion da iawn yn enwedig wrth ystyried y twf sylweddol sydd wedi’i gyflawni yn narpariaeth prentisiaethau’r Coleg ers 2016. Mae nifer y dysgwyr wedi cynyddu o 250 i tua 3,000 (2022/23).

Yn yr adroddiad, cydnabuwyd ddull rhagweithiol y Coleg o ddatblygu cwricwlwm sy’n diwallu anghenion y cyflogwyr lleol a chenedlaethol y mae’n gweithio’n agos â nhw. Canmolwyd y cwricwlwm hefyd am ei ddefnydd helaeth o wybodaeth am y farchnad lafur.

Nododd yr adroddiad hefyd y cysylltiadau cryf y mae’r Coleg wedi’u meithrin â’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol, lle mae Mark Jones, Prif Swyddog Gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn aelod brwd ers dros wyth mlynedd. “Rydw i’n falch iawn o weld ymagwedd gadarnhaol a rhagweithiol y coleg at ddatblygu cwricwlwm i fodloni anghenion cyflogwyr lleol a chenedlaethol yn cael ei gydnabod”.

Mae cysylltiadau cadarn y Coleg â’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol wedi hwyluso’r broses o weithio gyda chyflogwyr lleol i greu rhaglenni prentisiaethau pwrpasol megis cyrsiau amdriniaethol, gorchuddio lloriau a thai. Coleg Gŵyr Abertawe yw’r unig goleg yng Nghymru sy’n cynnig dau o’r cyrsiau hyn.

Ar hyn o bryd, mae Coleg Gŵyr Abertawe’n gweithio mewn partneriaeth â saith is-gontractwr - Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, XR Training, Mudiad Meithrin, Urdd Gobaith Cymru, Big Learning Company, Hyb Academi Adeiladwaith Cymru ac Academi S&A - i ddarparu rhaglenni prentisiaethau ar draws gorllewin, de, canolbarth a gogledd Cymru.

Mae’r Coleg hefyd yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd i gynnig prentisiaethau gradd mewn peirianneg meddalwedd, cyrsiau trydanol a pheirianneg fecanyddol.

Fe wnaeth adroddiad Estyn hefyd sôn am ddefnydd effeithiol y Coleg o rwydwaith cyflogwyr i ddarganfod dysgwyr addas i lenwi prentisiaethau gwag. Canmolwyd hefyd effaith gadarnhaol yr wyth bwrdd cynghori ‘effeithiol iawn’ - a sefydlwyd gan y Coleg - i lunio llwybrau prentisiaeth newydd i ddiwallu anghenion cyflogwyr.

Yn wir, cafodd hyn gryn argraff ar Estyn ac fe’n gwahoddwyd i gyflwyno astudiaeth achos i nodi’r gwaith hwn fel arfer gorau.

Canmolwyd y Bwrdd Cyflogwyr Digidol yn benodol, a’r effaith gadarnhaol iawn a gafodd ar amrywiaeth eang y ddarpariaeth a gynigir yn y Coleg. Oherwydd ceisiadau penodol gan gyflogwyr lleol, datblygodd y Coleg gyrsiau digidol newydd gan gynnwys prentisiaeth mewn Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr a chwrs Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes. Cafodd y cyrsiau hyn eu datblygu ar y cyd ag Agored Cymru a’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol er mwyn mynd i’r afael â’r bwlch mewn sgiliau digidol yn ne orllewin Cymru ac i i’w leihau.

O ganlyniad, mae prentisiaid y Coleg bellach yn ennill profiadau ymarferol gwych gyda chyflogwyr arloesol megis stiwdio animeiddio Hollowpixel yng Nghaerdydd a GR Digital, asiantaeth sydd wedi ei leoli yng nghanol dinas Abertawe.

Uchafbwynt arall oedd y cymorth y mae’r Coleg yn ei gynnig i brentisiaid, yn enwedig y ddarpariaeth effeithiol sydd ar gael i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae’r cymorth hwn yn helpu i waredu rhwystrau gan alluogi dysgwyr nid yn unig i gyflawni eu prentisiaeth ond i ffynnu yn eu gweithle, gan fagu hyder a hunan-barch.

Yn ddiweddar, enillodd y Coleg Wobr AoC ar gyfer Ehangu Cyfranogiad yn Noson Wobrwyo Cymdeithas y Colegau i gydnabod y rhaglen Prentisiaethau i Bawb.

“Ro’n i’n arfer meddwl bod rhywbeth yn bod arna’ i, ond ers astudio rhaglen brentisiaeth a chyrchu cymorth, rydw i wedi sylweddoli nad yw fy nyslecsia yn broblem, mae’r broblem yn ymwneud â’r ffordd rydw i’n gweithio,” meddai un dysgwr.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Tîm Dysgu Seiliedig ar Waith am eu gwaith caled a’r amser y maent yn ei roi i fyfyrwyr” meddai myfyriwr arall. “Mae’r cymorth a dderbyniais wedi gwneud gwahaniaeth i fy mhrentisiaeth. Roeddwn i’n gwybod bod cymorth ar gael felly doedd dim angen i mi straffaglu ag anghenion dysgu ychwanegol ar fy mhen fy hun.”

Fe wnaeth yr archwilwyr hefyd gydnabod y cynnydd cadarnhaol a gyflawnwyd y prentisiaid wrth iddynt ddatblygu galluoedd ymarferol gwerthfawr y gellir eu defnyddio’n uniongyrchol yn eu rolau presennol a darpar rolau.

Cyfeiriwyd at y prentisiaid fel ‘aelodau gwerthfawr o weithlu eu cyflogwr’ a gwelwyd yn uniongyrchol sut yr oeddent wedi datblygu eu sgiliau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth a’r gweithle wrth i lawer ohonynt ennill medalau ar ôl cystadlu mewn cystadlaethau sgiliau cenedlaethol.

Yn ôl yr arolygwyr, mae’r hyblygrwydd i gynnig hyfforddiant wyneb yn wyneb ac o bell hefyd yn gryfder allweddol.

“Fel Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, rwy’n falch iawn o’r canfyddiadau a ddatgelwyd yn adroddiad Estyn,” meddai Kelly Fountain. “Mae’r adroddiad clodwiw yn adlewyrchiad o ymrwymiad ein prentisiaid, staff a’n partneriaid.

“Yn ogystal, rwy’n falch bod yr adroddiad yn nodi ein systemau effeithiol o gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gydnabod ein hymrwymiad i feithrin amgylchedd cynhwysol lle mae pob prentis yn cael y cyfle i ffynnu.”

“Rwy’n falch bod ein hymdrechion cydweithredol, rhwydweithiau cyflogwyr a chyfraniadau effeithiol han fyrddau cynghori’r sector wedi cael eu cydnabod wrth i ni lunio llwybrau prentisiaeth arbennig i ddiwallu anghenion esblygol y diwydiant. Byddwn yn parhau i fod yn ymrwymedig i welliant parhaus er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y safonau uchaf posib ar gyfer dysgwyr ein darpariaeth Dysgu Seiliedig ar Waith.”