Skip to main content

Datganiad hygyrchedd ar gyfer Coleg Gŵyr Abertawe

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Coleg Gŵyr Abertawe: https://www.gcs.ac.uk/

Coleg Gŵyr Abertawe sy’n rhedeg y wefan hon.

Rydyn ni wedi defnyddio ieithwedd syml ar ein gwefan er mwyn ei gwneud mor syml ag sy’n bosib i’w ddeall.

Mae My Computer My Way yn cynnig cymorth ar sut i hwyluso’r broses o ddefnyddio eich dyfais os oes gennych anabledd, ac mae the AT Hive yn gallu eich helpu i ddod o hyd i dechnoleg gynorthwyol sy’n addas i chi.

Yn yr adroddiad hwn:

  1. Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?
  2. Adborth a gwybodaeth gyswllt
  3. Gweithdrefn gorfodi
  4. Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
  5. Cynnwys anhygyrch
  6. Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
  7. Sut i gael y gorau o’n gwefan

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?

Mae rhannau o’r wefan nad oes modd cael mynediad llawn atynt, ond gallwch weld rhestr lawn o’r materion rydyn ni’n ymwybodol ohonynt yn adran ‘cynnwys anhygyrch’ y datganiad hwn.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os ydych chi’n darganfod problemau nad ydynt wedi’u rhestr ar y dudalen hon neu os ydych o’r farn nad ydyn ni’n bodloni ein gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: digitalaccessibility@gowercollegeswansea.ac.uk

Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat arall (PDF, print mawr, dogfen easy read, recordiad sain neu braille), cysylltwch â: marketing@gcs.ac.uk

Byddwn yn ymateb i’ch cais o fewn 5 diwrnod. Os ydych am ddarllen y ddogfen hon ar ffurf syml e.e dogfen Microsoft Word, PDF HTML, byddwn yn ceisio darparu hyn o fewn 10 diwrnod. Ar gyfer ceisiadau cymhlethach megis cyweirio PDF, trawsgrifiadau a sgrindeitlo, byddwn yn ymdrechu i ymateb i’ch cais o fewn 20 diwrnod. Os ydym yn debygol o gymryd mwy na 20 diwrnod i ymateb i’ch cais, byddwn yn rhoi gwybod i chi.

Canllawiau ar gysylltu â sefydliad ynghylch gwefannau anhygyrch

Gweithdrefn gorfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus 2018 (gwefannau ac apiau ar gyfer dyfeisiau symudol) (Rhif 2). Os nad ydych chi’n hapus gyda’r ffordd rydym wedi ymateb i’ch cwyn, ’cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon ac yn anhapus gyda’r ffordd rydym wedi ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon. Maent yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus 2018 (gwefannau ac apiau ar gyfer dyfeisiau symudol) (Rhif 2) yng Ngogledd Iwerddon.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymrwymedig i sicrhau hygyrchedd y wefan hon yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan yn cydymffurfio â safon AA 2.2 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG).

Mae’r wefan hefyd yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe Fersiwn 2.2 (safon AA), oherwydd y diffyg cydymffurfio a'r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Problemau’r wefan:

  • Nid yw rhai o'r elfennau ar benawdau’r tudalennau yn bodloni gofynion cyferbyniad (ffocws ar felyn ar gefndiroedd gwyn neu lwyd golau). Mae hyn yn mynd yn groes i WCAG 1.4.11 Cyferbyniad Di-destun (AA).

Problemau’r ddogfen:

  • Mae rhai o'n dogfennau yn cynnwys delweddau heb ddisgrifiadau. Mae hyn yn mynd yn groes i WCAG 1.1.1 Cynnwys nad yw'n destun (AA).
  • Nid oes gan rai o'n dogfennau strwythur ar gyfer penawdau neu restrau priodol ac mae rhai o’r tablau heb strwythur priodol. Mae hyn yn mynd yn groes i WCAG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (A).
  • Mae rhai o'r tagiau ar goll o’r dogfennau ac mae hyn yn ei gwneud yn anoddach i'w defnyddio gyda thechnoleg gynorthwyol. Mae hyn yn mynd yn groes i WCAG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (A) a 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (A).
  • Mae teitlau rhai o'n dogfennau ar goll. Mae hyn yn mynd yn groes i WCAG 2.4.2 Teitl Tudalen (A).
  • Mae rhai o’n dogfennau yn cynnwys un opsiwn iaith. Mae hyn yn mynd yn groes i WCAG 3.3.1 Iaith Tudalen (A).

Rydym eisoes wedi adolygu’r uchod yn ystod ein harchwiliad hygyrchedd a gynhaliwyd ym mid Ebrill 2026, ac rydym eisoes yn gweithio i fynd i’r afael â hwy. Rydym yn bwriadu cywiro’r mater sy’n ymwneud â ffocws ar ein gwefan a gwneud pob dogfen yn hygyrch erbyn Ebrill 2027.

Os ydych chi’n dod o hyd i broblem nad ydym wedi'i nodi eto neu os oes angen i un o'n dogfennau gael ei haddasu i'ch anghenion, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau a nodir yn yr adran 'Adborth a gwybodaeth gyswllt'.

Baich anghymesur

Nid ydym wedi gwneud unrhyw hawliadau baich anghymesur.

Cynnwys nad yw’n berthnasol i’r rheoliadau hygyrchedd

PDFs a dogfennau eraill

Nid yw rhai o'n PDFs a dogfennau Word yn hygyrch. Er enghraifft, mae gennym PDFs sy’n cynnwys gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael mynediad i'n gwasanaethau a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word. Rydym yn gweithio ar drwsio'r dogfennau hyn neu eu disodli gyda thudalennau gwe html hygyrch. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau erbyn Ebrill 2027.

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu trwsio https://www.gcs.ac.uk/sites/default/files/FOI%20Privacy%20Notice.pdf nes bod fersiwn mwy diweddar o'r ddogfen yn cael ei rhyddhau.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddwn yn cydymffurfio â safonau hygyrchedd.

Cynnwys fideo

Bydd yr holl gynnwys fideo newydd a gynhyrchwn yn cynnwys capsiynau, disgrifiadau sain a thrawsgrifiadau yn ôl yr angen.

Mapiau Ar-lein

Mae sawl tudalen yn cynnwys mapiau ar-lein at ddibenion nodi cyfeiriad a gwybodaeth gyswllt (er enghraifft lleoliad campws Gorseinon.

Hefyd, mae gennym fapiau Matterport 3D i helpu i hyrwyddo nodweddion y campws e.e. teithiau rhithwir. Mae’r rhain yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn i ymwelwyr niwroamrywiol ond gallant fod yn llai hygyrch i ymwelwyr dall. Rydym yn cynnig cymorth i helpu i ddiwallu anghenion hygyrchedd wrth ymweld â'n campws.

Cynnwys archif

Mae rhywfaint o'r cynnwys yn adran newyddion y wefan wedi'i ddosbarthu ar ffurf archif. Mae'r math hwn o gynnwys wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd digidol. Os oes angen darn penodol o gynnwys archif arnoch ac nad yw'n hygyrch, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r dulliau uchod a byddwn yn darparu fersiwn hygyrch i chi.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 16 Ionawr 2023 ac fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 17 Gorffennaf 2026.

Cafodd y wefan hon ei phrofi diwethaf ar Ebrill 2026 yn erbyn safon WCAG 2.2. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol trwy brofion a gynhaliwyd gan McNaught Consulting. Cynhaliwyd y profion ar sampl o dudalennau gan ddefnyddio ystod o ddulliau profi â llaw ac awtomataidd gan gynnwys profi bysellfyrddau, profi darllenwyr sgrin (NVDA a Windows Nratator), profi gydag ategolion a phorwr a thriongliant offer WAVE, SiteImprove a Accessibility Insights.

Sut i gael y gorau o’n gwefan

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi bod wrthi’n gweithio i wella profiad y dysgwr ar ein gwefan cyn ailddylunio ac ail-lansio’r wefan diwedd 2023.

Yn y cyfamser, dyma sut rydym wedi gweithio i roi profiad mor hygyrch ag y gallwn i chi. Rydym yn gwneud rhai awgrymiadau am ategion porwr yn yr adran isod. Gwneir y rhain yn ddidwyll i wella profiad y defnyddiwr, ond rydych chi’n eu defnyddio ar eich risg eich hun. Ni all y Coleg gymryd cyfrifoldeb am broblemau nas rhagwelwyd, ac ni allwn ddarparu cymorth technegol.

Os yw’n well gennych wrando ar wybodaeth yn hytrach na’i darllen, gallwch ddefnyddio porwr Microsoft Edge. Mae’n cynnwys cyfleuster testun i leferydd fydd yn darllen bron pob darn o destun ar ein gwefan. 

Gellir chwyddo’r wefan hyd at 400% a bydd y cynnwys yn ail-lifo i ffitio’r dudalen. Nid oes rhaid i chi sgrolio i’r chwith ac i’r dde i’w ddarllen. Defnyddiwch y bysellau CTRL a + i chwyddo i mewn neu CTRL ac – i chwyddo allan. Ar Mac defnyddiwch y bysellau Command + a – yn lle hynny. Mae’r wefan yn ymateb yn dda ar gyfrifiadur bwrdd gwaith ac ar ffôn symudol. Mae cynnwys newydd yn cael ei greu gan ddefnyddio templedi ymatebol i roi profiad chwyddo cyson i chi.

Oeddech chi’n gwybod? 
Gallwch chwyddo testun hefyd drwy newid maint y testun rhagosodedig yn y porwr o dan osodiadau eich porwr. Gall hyn chwyddo hyd at 200% ac mae modd ei ddefnyddio o hyd.

Mynd o gwmpas y safle

Gallwch lywio’r safle mewn tair ffordd. 

  • Llywio lefel uchel gyson (testun gwyn ar liw pinc dwfn). 
  • Mae llwybrau briwsion bara ar gael ar gyfer rhai tudalennau ar lefel ddyfnach.
  • Defnyddio’r blwch chwilio.

Gellir cyrchu’r 3 opsiwn o’r bysellfwrdd neu’r llygoden.

Mynd o gwmpas tudalen

Mae tudalennau’r wefan yn defnyddio tagiau pennawd a meysydd cynnwys wedi’u labelu i roi strwythur defnyddiol i dudalennau. Gall defnyddwyr elwa drwy:

  • ddefnyddio ategion porwr fel  HeadingsMap for Chrome i lywio’n gyflym drwy’r dudalen
  • defnyddio trawiadau bysellau (keystrokes) rhaglenni darllen sgrin i bori yn ôl lefelau pennawd
  • defnyddio "dolenni neidio" i’ch gadael i osgoi blociau llywio ailadroddus.

Mynediad ar fysellfwrdd

Gellir llywio pob rhan o’r wefan gan ddefnyddio trawiadau bysellau safonol. Mae trefn y tabiau yn rhesymegol, ac mae’r eitem dan sylw wedi’i haroleuo.

Er enghraifft 

  • Mae’r tab yn symud ymlaen drwy’r elfennau gweithredol (e.e. hypergysylltiadau). Mae’r tab Shift yn symud yn ôl. 
  • Mae Enter yn cadarnhau’r dewisiadau. 
  • Mae bysellau saeth yn symud trwy’r opsiynau. 

Rydym wedi gwella’r cyferbyniadau lliw ar y rhan fwyaf o’r wefan, ond mae rhai problemau o hyd (gweler Cynnwys nad yw’n Hygyrch isod). Gallwch newid eich cefndir lliw eich hun yng ngosodiadau eich porwr neu gydag ategion fel ScreenShader for Chrome. Os yw’n well gennych gyferbyniadau uwch, gellir cyflawni hyn trwy ddefnyddio’r gosodiadau hygyrchedd yn eich cyfrifiadur neu ategion porwr fel HighContrast for Chrome.

I lawer o bobl, mae fideos yn ffyrdd mwy effeithiol o ddeall gwybodaeth. Rydym yn defnyddio fideos ar lawer o dudalennau. Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod y rhain yn cynnwys capsiynau cywir. Gellir gweithredu'r chwaraewr fideo ar y dudalen gan ddefnyddio llygoden neu fysellfwrdd. Mae’r botwm is-deitlo i'w weld ar y gwaelod ar ochr dde’r fideo pan fydd y fideo yn chwarae. Gellir troi hwn ymlaen neu i ffwrdd.

Mae gan ddelweddau ddisgrifiadau testun amgen priodol ar gyfer pobl sy’n defnyddio rhaglenni darllen sgrin. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod delweddau addurnol yn cael eu hanwybyddu.

Rydym wedi gweithio i sicrhau bod testun unigryw ac ystyrlon gan y mwyafrif o hypergysylltiadau, gan osgoi defnyddio “cliciwch yma” neu URLs crai.