Tystysgrif Genedlaethol mewn Rheoli Amgylcheddol (NEBOSH) - Cymhwyster
Trosolwg
Nod y cymhwyster hwn yw darparu sylfaen gadarn mewn rheoli amgylcheddol. Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer rheolwyr, goruchwylwyr a gweithwyr sydd yn gyfrifol am reolaeth amgylcheddol fel rhan o’u dyletswyddau dydd-i-ddydd.
Mae’r cymhwyster hefyd yn addas ar gyfer ymarferwyr amgylcheddol sydd am wella eu profiad a symud ymlaen yn eu gyrfa trwy ennill cymhwyster ffurfiol.
EMC 1 a 2.
Gwybodaeth allweddol
Bydd gofyn i ymgeiswyr fynychu cyfweliad cyn dechrau’r cwrs i drafod y cymhwyster ac i ddarganfod a yw lefel a chynnwys y cwrs yn addas.
Does dim angen i chi feddu ar unrhyw wybodaeth flaenorol am reolaeth amgylcheddol, ond, er gwybodaeth, bydd yr asesiad yn cynnwys tasg ysgrifenedig lle bydd gofyn i chi greu adroddiad cryno a sefyll arholiad ysgrifenedig.
Mae’r cymhwyster yn cynnwys dwy brif uned, rheoli peryglon amgylcheddol, a chymhwyso ymarferol a chymorth.
Mae’r uned rheoli peryglon amgylcheddol yn cynnwys naw elfen:
- Sylfeini rheolaeth amgylcheddol
- Systemau Rheoli Amgylcheddol
- Asesiad effaith amgylcheddol
- Rheoli allyriadau i'r aer
- Rheoli halogiad mewn ffynonellau dŵr
- Rheoli gwastraff a defnydd tir
- Ffynonellau ynni, defnydd o ynni ac effeithlonrwydd ynni
- Rheoli sŵn amgylcheddol
- Cynllunio ar gyfer argyfyngau amgylcheddol ac ymateb iddynt
Mae darpariaeth y cwrs yn hyblyg, a gallwch gael eich rhyddhau am un diwrnod yr wythnos i astudio’r cwrs, yn ogystal ag un diwrnod adolygu ychwanegol.
Ar ôl cwblhau pob uned o’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif gan NEBOSH.
Mae’n hanfodol bod ymgeiswyr yn dod ag ID ffotograffig i’r arholiad. Os na fyddant yn gwneud hyn, mae’n bosib na fyddant yn cael sefyll yr arholiad.