EAL Tystysgrif mewn Technolegau Peirianneg L2
Trosolwg
Bydd y rhaglen gyffrous hon yn rhoi mynediad i waith gwasanaethu, atgyweirio a gosod peiriannau golchi a/neu setiau teledu clyfar. Gan fod offer electronig yn dod yn fwy rhyngweithiol a chlyfar mae’r angen am hyfforddiant yn y maes hwn sy’n datblygu’n gyflym yn hanfodol.
Mae prinder sgiliau yn y sector hwn ac felly mae cyfleoedd cyflogaeth ardderchog ar gael.
Bydd y cwrs yn cynnwys hyfforddiant ymarferol mewn atgyweirio, gosod a gwasanaethau peiriannau golchi (nwyddau gwyn) a setiau teledi clyfar (nwyddau brown).
Diweddarwyd Ebrill 2017
Gwybodaeth allweddol
I astudio Lefel 2, nid oes angen profiad blaenorol ond byddai’n fanteisiol.
Mae cyfweliad yn orfodol ar gyfer y rhaglen astudio hon.
Addysgir y cwrs trwy ethos ‘dysgu trwy wneud’. Mae gweithdai’r Coleg yn llawn cyfarpar ac yn cynnwys cynhyrchion electronig diweddaraf y farchnad.
Bydd elfennau theori ac ymarferol. Bydd ymgeiswyr yn cael eu cysylltu â chyflogwr i helpu i gasglu cyfleoedd asesu ymarferol perthnasol. Bydd arbenigwyr gwadd blaengar y farchnad yn darparu seminarau technegol ar ddatblygiadau megis y CARTREF CLYFAR.
Bydd asesiad yn cynnwys datblygu portffolio, asesiadau ar-lein ac aseiniadau ymarferol.
Mae’r cwrs yn rhedeg ddwy noson neu un diwrnod yr wythnos am un flwyddyn academaidd.
Dilyniant o’r cymhwyster hwn i Lefel 3.
Bydd gwibdeithiau i ffatrïoedd lleol a chyfleoedd i ymweld â sioeau crefft a fydd yn rhoi cyfle i ymgeiswyr rwydweithio yn y diwydiant.