Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu eich preifatrwydd. Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon i’n rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr yn cael ei defnyddio yn unswydd at ddibenion gweinyddu cysylltiedig â’r fenter hon a bydd yn cael ei storio’n ddiogel heb ei rhannu ag unrhyw sefydliad arall, ac eithrio fel sy’n ofynnol gan y gyfraith. Drwy roi eich gwybodaeth bersonol i ni, rydych yn rhoi caniatâd i ni ei chasglu a’i defnyddio at y dibenion uchod.
Eich hawliau
Mae gennych chi hawliau ynghylch yr wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni. Mae’r rhain yn cynnwys yr hawl i gael mynediad at wybodaeth a’i chywiro os yw’n anghywir. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau a’r wybodaeth a ddarparwyd gennych, efallai y bydd gennych yr hawl i wrthwynebu’r prosesu, cyfyngu ar yr wybodaeth neu drefnu ei dileu. Cysylltwch â marketing@gcs.ac.uk i ofyn am hyn.
Gallwch wneud cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth os nad ydych yn hapus am y ffordd mae’r Coleg wedi prosesu’ch gwybodaeth bersonol www.ICO.org.uk
Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data y Coleg i gael rhagor o wybodaeth: Dpo@gcs.ac.uk