Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn falch o gydnabod cyflawniadau a gwaith caled ein Myfyrwyr Addysg Uwch mewn seremoni raddio flynyddol.
Graddio 2024
Cafodd seremoni graddio Addysg Uwch 2024 ei chynnal yn adeilad mawreddog Arena Abertawe ac roedd yn achlysur pwysig iawn gan gydnabod cyflawniadau rhagorol ein myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Yn ystod y digwyddiad, cafwyd araith ysbrydoledig gan y siaradwr gwadd, Rocio Cifuentes MBE, Comisiynydd Plant Cymru, y cyflwynwyd Cymrodoriaeth y Coleg iddi.
Roedd y seremoni hefyd yn arddangos doniau rhyfeddol y cyn-fyfyriwr Penelope George a band jazz y Coleg, gan ddarparu profiad adloniant hyfryd i bawb a oedd yn bresennol.
Diolch i bawb a fu’n rhan o’r seremoni hon, lle dathlon ni nid yn unig llwyddiant academaidd, ond ysbryd bywiog cymuned Coleg Gŵyr Abertawe hefyd.
Darllenwch yr eitem newyddion llawn yma
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Seremoni Graddio, cysylltwch â graduation@gcs.ac.uk
Cwestiynau Cyffredin - Graddio 2024
Oes.
Cewch e-docyn gan system archebu Ede & Ravenscroft, y gallwch ei argraffu neu ei ddangos ar sgrin eich ffôn. Byddwch yn derbyn y tocyn hwn ar 22 Tachwedd.
Os nad ydych wedi derbyn eich tocyn erbyn 25 Tachwedd, cysylltwch â graduation@gcs.ac.uk.
Dylech gyrraedd Arena Abertawe o 4.30pm a dim hwyrach na 5.45pm. Byddwch chi’n cofrestru, casglu eich gŵn a chael yr opsiwn o gael tynnu lluniau.
Os byddwch yn cyrraedd yn hwyrach na hyn, ni allwn sicrhau lle i chi yn y seremoni.
Bydd angen i’ch gwesteion gyrraedd yr un pryd â chi i fynd i mewn i’r arena. Os bydd eich gwesteion yn hwyr, bydd angen i chi fynd i'w casglu nhw.
Bydd gwiriadau diogelwch yn cael eu cynnal ger y prif ddrysau mynediad. Byddwn yn cynnal chwiliadau bagiau wrth y fynedfa.
Os bydd angen i chi adael yr arena, bydd angen i chi ymgymryd â gwiriad diogelwch bob tro rydych chi’n dychwelyd i’r adeilad.
1½ awr. Bydd y seremoni ffurfiol yn dechrau am 7.00pm a bydd yn rhedeg tan 8.30pm.
Mae maes parcio wedi’i leoli o dan Arena Abertawe ac mae lleoedd parcio eraill ar gael yng nghanol y ddinas https://www.abertawe.gov.uk/meysyddparciocanolyddinas (agor mewn ffenest newydd).
Bydd. Bydd derbyniad â diodydd gyda diod am ddim ar gael. Bydd y prif far a stondin bwyd ar agor i brynu bwyd yn y lleoliad.
Oherwydd y ffordd rydych yn cael eich galw i’r llwyfan, bydd gradddedigion yn eistedd ar wahân i westeion. Bydd angen i raddedigion eistedd o 6.15pm er mwyn derbyn briff.
Bydd gwesteion yn eistedd o 6.30pm yn barod ar gyfer y seremoni i ddechrau am 7pm.
Rhowch wybod i ni am eich anghenion hygyrchedd chi a’ch gwesteion. Gallwn sicrhau bod seddi priodol ar gael yn y derbyniad â diodydd ac yn ystod y seremoni.
Mae rampiau a lifftiau ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadair olwyn.