Arweinyddiaeth a Rheolaeth (CMI, ILM) Lefel 5 - Prentisiaeth
Trosolwg
Mae Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn rhoi modd i ddysgwyr ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth i fod yn rheolwyr ac yn arweinwyr, neu ddatblygu eu hunain ymhellach i rolau rheolwyr canol neu uwch. Achredir ein rhaglenni gan ILM a CMI, a byddant yn cyflwyno arferion arweinyddiaeth a rheolaeth allweddol gyda’r nod o gynorthwyo dysgwyr i gymhwyso’r sgiliau a ddatblygwyd yn eu gwaith.
Ar Lefel 5, mae’r brentisiaeth yn addas ar gyfer uwch reolwyr, penaethiaid adran neu gyfarwyddwyr. Addysgir y rhaglen fel cymhwyster annibynnol y gellir ei ariannu’n llawn, a gellir ei ddefnyddio i uwchsgilio staff newydd neu bresennol.
Mae’r brentisiaeth hon ar gyfer sefydliadau a dysgwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Os ydych chi’n chwilio am gwrs cyfatebol yn Lloegr, cliciwch yma.
Gwybodaeth allweddol
I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru.
Bydd dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig, a fydd yn gweithio’n agos gyda nhw a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn addas ar gyfer eu rôl unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Gall yr addysgu fod o bell neu gall y tiwtor/aseswr gwrdd â’r dysgwr bob 4-6 wythnos mewn lleoliad sy’n gyfleus i’r dysgwr a’r aseswr.
Bydd disgwyl i’r dysgwr fynychu seminarau neu weithdai a fydd yn canolbwyntio ar yr elfen wybodaeth o’r cymhwyster, a chymorth i ddatblygu dealltwriaeth a sgiliau. Bydd dysgwyr hefyd yn cael gwaith prosiect seiliedig ar yr unedau maen nhw wedi’u dewis, a byddant yn creu portffolio prosiect i ddangos y defnydd o’u sgiliau newydd.
Mae rhaglen Lefel 5 ar gael naill ai fel diploma mewn egwyddorion arweinyddiaeth a rheolaeth, neu fel diploma NVQ mewn rheolaeth ac arweinyddiaeth. Mae’r diploma mewn egwyddorion arweinyddiaeth a rheolaeth yn cynnwys unedau fel rheoli gwelliannau, datblygu sgiliau meddwl beirniadol ac arwain arloesi a newid. Mae’r diploma NVQ mewn rheolaeth ac arweinyddiaeth yn cynnwys unedau fel dylunio prosesau busnes, rheoli newid strategol a darparu arweinyddiaeth a rheolaeth.
I gwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd â phrosiect sy’n berthnasol i’w rôl unigol a’u hamgylchedd dysgu. Byddan nhw’n caffael yr wybodaeth, yr offer a’r technegau sy’n gysylltiedig â phob uned a byddan nhw wedyn yn eu rhoi ar waith yn eu hamgylchedd gwaith presennol.
Bydd y prosiect, y gwaith a roddwyd a’r dystiolaeth a gasglwyd yn cael eu hadolygu yn ystod y cyfarfodydd grŵp a’r cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda thiwtoriaid/aseswyr a’u defnyddio at ddibenion asesu. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Aseswr Clyfar, sef offeryn rheoli prentisiaethau ar-lein sy’n rhoi modd i’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr olrhain cynnydd dysgwyr yn effeithiol.